Gwastraff Masnachol

Gwastraff Masnachol

Beth yw gwastraff busnes?

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn diffinio gwastraff busnes (neu fasnachol) fel gwastraff a deunydd ailgylchadwy o eiddo a ddefnyddir ar gyfer masnach neu fusnes neu at ddiben chwaraeon, hamdden neu adloniant.

 

Beth yw fy nghyfrifoldebau fel perchennog busnes?

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob busnes, gan gynnwys llety gwyliau, sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i storio, trosglwyddo a gwaredu'r holl wastraff a gynhyrchir yn gywir ac yn ddiogel, heb niweidio'r amgylchedd.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi bod gan bob busnes ddyletswydd gofal ar gyfer y gwastraff a gynhyrchir gan y busnes.  Os byddwch yn rhoi eich gwastraff i rywun arall, mae'n rhaid i chi sicrhau ei fod wedi'i drwyddedu i'w gludo a'i fod wedi'i drwyddedu i'w waredu yn unol â'r ddyletswydd gofal.

 

Mae’r ddyletswydd gofal yn ei gwneud yn ofynnol i’r busnes sicrhau’r canlynol:

  • Y cedwir yr holl wastraff yn ddiogel mewn cynhwysydd addas.
  • Bod gan y sawl y byddwch yn rhoi eich gwastraff iddo yr awdurdod i'w gymryd, h.y. ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig.
  • Pan fydd eich gwastraff yn cael ei drosglwyddo, rhaid anfon nodyn trosglwyddo gwastraff gydag ef.
  • Rhaid cadw nodiadau trosglwyddo gwastraff am ddwy flynedd a rhaid iddynt fod ar gael i swyddog awdurdodedig o Gyngor Sir Penfro neu Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais.
  • Os ydych yn cael gwared ar eich gwastraff eich hun, mae'n rhaid i chi ddefnyddio cyfleuster trwyddedig fel Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Penfro o dan archeb fasnachol. Rhaid i chi fod wedi cofrestru fel cludwr gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gludo eich gwastraff.

 

Beth na chaniateir i mi ei wneud gyda fy ngwastraff busnes?

NI chaniateir i chi wneud y canlynol:

  • Mynd â'ch gwastraff busnes adref gyda chi a'i roi yn eich bin cartref
  • Mynd â'ch gwastraff busnes i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu gan honni ei fod yn wastraff cartref
  • Rhoi eich gwastraff busnes mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus neu fanc ailgylchu cyhoeddus

 

A yw fy ngwastraff yn cael ei gwmpasu gan ardrethi?

Nid yw casglu gwastraff o fusnes wedi'i gynnwys yn eich ardrethi ac ni ddylid ei guddio fel gwastraff cartref, h.y. ei waredu o fewn casgliadau gwastraff cartref a ddarperir gan y Cyngor neu ei adael mewn biniau sbwriel cyhoeddus, sy'n dechnegol yn dipio anghyfreithlon ac yn drosedd ar wahân.

 

A ydych yn ymwybodol o’r newidiadau i’ch gwastraff busnes yn sgil cyflwyno’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle o 6 Ebrill 2024?

Ar 6 Ebrill 2024, rhaid i fusnesau gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodedig i’w casglu ar wahân i’w gilydd ac ar wahân i wastraff gweddilliol. Mae'n golygu y bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi yn ei wneud ar hyn o bryd.  Y nod yw gwella ansawdd a maint ailgylchu yng Nghymru.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau?

Bydd angen storio a chasglu’r eitemau a restrir isod ar wahân:

  • Gwastraff bwyd (os ydych yn cynhyrchu dros 5kg yr wythnos)
  • Papur
  • Cerdyn/cardbord
  • Gwydr
  • Metel, plastig a chartonau
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu
  • Tecstilau heb eu gwerthu

 

Bydd gwaharddiad hefyd ar wneud y canlynol:

  • Anfon bwyd i garthffosydd gwastraff (unrhyw swm)
  • Gwastraff a gesglir ar wahân yn cael ei anfon i weithfeydd llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Unrhyw wastraff pren yn mynd i safleoedd tirlenwi

 

Chi sy'n gyfrifol am yr holl wastraff ar y safle yr ydych yn ei feddiannu. Mae hyn yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan eich staff, ymwelwyr, a chontractwyr neu werthwyr sy'n gweithio ar y safle.

Mae hefyd yn berthnasol i bob casglwr a phrosesydd gwastraff a deunydd ailgylchadwy sy'n casglu ac yn rheoli gwastraff o weithleoedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Ailgylchu yn y gweithle ar wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn methu â chydymffurfio?

Os bydd eich busnes yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon, gallai arwain at eich busnes yn cael ei erlyn a’i ddirwyo’n drwm, gan fod torri’r ddyletswydd gofal hon (a’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle o fis Ebrill 2024) yn drosedd.

 

Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Os nad oes gennych drefniadau priodol ar waith, dylech wneud y canlynol:

  • Prynu neu logi biniau addas i storio eich gwastraff – bydd angen i’r rhain gynnwys y ffrydiau ailgylchu ar wahân a amlinellir uchod
  • Storio eich gwastraff yn saff ac yn ddiogel – mewn cynhwysydd fel na all y cyhoedd, anifeiliaid neu fermin gael mynediad ato
  • Sefydlu contract gyda chludwr gwastraff cofrestredig / cwmni casglu gwastraff masnachol – bydd hwn yn darparu cynwysyddion storio a gwasanaeth casglu ar eich cyfer a'r holl waith papur angenrheidiol, h.y. nodiadau trosglwyddo gwastraff a reolir
  • Rhoi gwybod i'ch holl staff a chwsmeriaid sut y dylent ailgylchu a chael gwared ar y gwastraff a'r deunydd ailgylchadwy a gynhyrchir

 

Mae'r Cyngor yn cynnig amrywiaeth o gasgliadau gwastraff masnachol ac ailgylchu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â'n tîm gwastraff masnach drwy anfon e-bost at tradewaste@pembrokeshire.gov.uk neu ffonio 01437 775900. Gall busnesau ddefnyddio darparwyr amgen, ond dywed y gyfraith y bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth bod ganddynt drefniadau priodol ar waith, felly cysylltwch â ni i drafod hyn.

ID: 758, adolygwyd 20/08/2024