Gwastraff Masnachol
Casgliadau Newydd ar gyfer Gwastraff Cewynnau a Phadiau Anymataliaeth y gellir eu Taflu (AHP)
Newydd Ar Gyfer 2024
O fis Ebrill 2024, rydym yn cyflwyno casgliad bob pythefnos ar gyfer cewynnau y gellir eu taflu a chynhyrchion hylendid amsugnol eraill (AHP) fel cynhyrchion gwastraff anymataliaeth.
Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, byddwn yn casglu’r deunyddiau canlynol:
- Cewynnau a sachau cewynnau
- Cynhyrchion gwastraff anymataliaeth fel padiau
- Dillad gwely amsugnol defydd sengl
- Papur toiled a Weipiau
- Padiau gwely a chadeiriau
- Menig a ffedogau plastig y gellir eu taflu
- Bagiau Catheter Bagiau colostomi / stoma
** Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gyfer gwastraff glanweithiol neu gynhyrchion hylendid benywaidd; dylid cael gwared ar y rhain yn eich gwastraff cyffredinol **
Maebagiauporfforargyferygwasanaethhwnyncaeleu gwerthu ar sail rhagdaliad mewn rholiau o 20 bag y rholyn. Cyfeiriwch at y ddogfen tariff am y taliadau diweddaraf.
Bydd casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) ar amserlen bob pythefnos, a bydd y casgliadau’n cael eu gwneud o’ch man casglu gwastraff masnach ac ailgylchu arferol.Dim ond y bagiau AHP porffor a brynwyd gennym ni y gellir eu defnyddio; ni fydd unrhyw fagiau eraill a roddir allan i’w casglu yn cael eu casglu.
Ni fydd cyfyngiad ar y nifer o fagiau y gellir eu gosod ar gyfer pob casgliad ond mae gan bob bag unigol uchafswm pwysau o 15kg a dim ond yr eitemau uchod y gellir eu cynnwys.