Gwastraff Masnachol

Beth allaf i ei ailgylchu

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu cymysg ar gyfer eich deunyddiau ailgylchadwy. Mae'r dewis hwn yn eich galluogi i ailgylchu'r eitemau canlynol yn yr un bag:

  • Papur a cherdyn
  • Tuniau, caniau a ffoil metel gan gynnwys hambyrddau ffoil
  • Poteli plastig

Mae'r casgliadau yn dechrau ar gost sy'n sylweddol is na chasgliadau gwastraff cyffredinol. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi eich busnes i gasglu amrywiaeth eang o ddeunyddiau ailgylchadwy; gan leihau swm y gwastraff cyffredinol sydd gennych i gael gwared arno a'ch galluogi i arbed arian.

 

Gwastraff Bwyd

P'un ai caffi, tŷ bwyta, gwesty ynteu swyddfa yw eich busnes, drwy gymryd rhan yn ein gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol gallech wneud gwahaniaeth enfawr i'r swm o wastraff bwyd sy'n mynd i'ch bin gwastraff cyffredinol a dylai arbed arian i chi.

Mae ein busnes, sydd wedi ei gynllunio o'r newydd, yn eich galluogi i ailgylchu gwastraff bwyd, wedi a heb ei goginio, gan gynnwys paratoi, bwyd wedi ei ddifetha, gweddillion platiau a hen fwyd. Byddwn yn derbyn y canlynol:

  • Deunyddiau llaeth - caws ac ati
  • Cig ac Esgyrn
  • Pysgod
  • Bara a Chrwst
  • Ffrwythau a Llysiau
  • Te a growns coffi

Gwydr

Mae llawer o fusnesau'n gweld mai gwydr yw un o'u heitemau gwastraff trymaf a mwyaf swmpus. Os ydych chi'n rhedeg busnes, sy'n cynhyrchu swm mawr o boteli a photiau gwydr, gallech leihau'n ddramatig eich costau gwastraff cyffredinol drwy gymryd rhan yn ein gwasanaeth ailgylchu gwydr.

Mae gennym nifer o ddewisiadau cyfyngiant ar gael, yn dibynnu ar y symiau o wydr yr ydych yn eu cynhyrchu a'r gofod sydd gennych ar gael.

ID: 765, adolygwyd 08/02/2023