Gwastraff Masnachol
Casgliadau Gwastraff Cyffredinol
Sbwriel na ellir ei ailgylchu yw gwastraff cyffredinol, megis papur lapio plastig, polystyrene, cynwysyddion plastig megis potiau iogwrt, tybiau margarîn etc ac eithrio poteli plastig ...
Mae gan Gyngor Sir Penfro lawer o ddewisiadau i'ch galluogi i gael gwared â'ch gwastraff cyffredinol. Mae gennym amrediad o finiau o faint gwahanol i ddewis o'u plith; fel arall, mae gennym gynllun bagiau ar gyfer y rheiny sydd ag ond ychydig o le i gadw biniau ar olwynion.
Biniau ar Olwynion
Mae'r gwasanaeth biniau'n ddelfrydol ar gyfer y busnesau hynny sydd â lle ar eu safle i symud a storio'r mathau hyn o finiau. Mae gan finiau ar olwynion fanteision dros fagiau masnach am fod y gwastraff cyffredinol wedi ei gyfyngu i gynhwysydd caeedig hyd nes y caiff ei gasglu ac maent yn hawdd eu troi o gwmpas hyd yn oed pan fyddant yn llawn.
Biniau 660 litr a 1100 litr
Mae ein biniau pedair olwyn mawr i gyd yn dod gyda brêc ar yr olwynion blaen sy'n hawdd ei weithio ynghyd â chaead sy'n cloi. Mae'r biniau hyn wedi eu gwneud o ddur galfanedig, sy'n golygu eu bod yn para'n dda, eu bod yn gryf yn erbyn tân a bod caeadau tynn arnynt, y gellir eu cloi, sy'n gymorth atal arogleuon a phroblemau gyda phryfaid ac anifeiliaid.
Biniau 240 litr
Mae ein biniau 240 litr yn ddelfrydol ar gyfer cwsmeriaid sy'n cynhyrchu symiau llai o wastraff. Mae'r biniau hyn yn llai na'r biniau pedair olwyn, ond maent yn dal yn gryf ac yn ddigon bychan i ffitio drwy ddrws arferol sy'n ei gwneud yn bosibl eu defnyddio / storio naill ai i mewn neu allan.
Bagiau
Gellir prynu bagiau gwastraff masnachol mewn rholiau o 20 yn ein holl Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod neu o Ddepo Thornton yn Aberdaugleddau. Gellir archebu bagiau i’w dosbarthu hefyd drwy gysylltu â’n hadran gwastraff masnachol ar 01437 764551. Bydd pob dosbarthiad ychwanegol o fagiau ar ôl eich cytundeb blynyddol yn costio ffi ddosbarthu o £5.