Gwastraff Masnachol

Cofrestru neu adnewyddu eich gwasanaeth casglu gwastraff masnach

Cwsmeriaid newydd

Diolch i chi am ddewis Cyngor Sir Penfro ar gyfer anghenion gwastraff ac ailgylchu eich busnes.

Cyn cwblhau eich cais:

  • Adolygwch fanylion llawn y gwasanaeth gwastraff masnach ac ailgylchu yr ydym yn ei gynnig.
  • Darllenwch ein  telerau ac amodau, gan fod cyflwyno’r ffurflen hon yn arwydd o’ch cytundeb i ymrwymo i gontract gyda Chyngor Sir Penfro.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’n tîm gwastraff masnachol:

 

Sut i gofrestru

  1. Cwblhewch y Ffurflen Ymholi y Gwasanaeth Gwastraff Masnach
  2. Ar ôl eu cyflwyno, bydd aelod o’n tîm yn adolygu’ch cais.
  3. Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i gadarnhau costau a threfnu taliad.

 

Cwsmeriaid presennol

Diolch am ddewis adnewyddu eich Cytundeb Gwastraff Masnach gyda ni.

 

Ynglŷn â'ch cais i adnewyddu

Rydym wedi cyflwyno proses adnewyddu ar-lein i wneud adnewyddu eich gwasanaeth gwastraff masnach yn haws.

 

Beth i'w ddisgwyl

Byddwch yn derbyn e-bost (wedi'i anfon i'r cyfeiriad sy'n gysylltiedig â'ch busnes).

Cofiwch wirio ffolder sothach neu sbam eich e-bost.

Os nad ydych wedi derbyn e-bost gennym, cysylltwch â ni: tradewaste@pembrokeshire.gov.uk

 

Beth fydd yr e-bost yn ei gynnwys

Bydd eich e-bost adnewyddu yn:

  • dangos eich pris adnewyddu
  • caniatáu ichi adolygu a newid eich gwasanaeth gwastraff masnach presennol cyn adnewyddu
  • gofyn i chi gadarnhau os ydych am adnewyddu
  • rhoi'r opsiwn i chi ganslo'ch contract

 

Sut mae eich pris adnewyddu yn cael ei gyfrifo

Mae eich pris adnewyddu yn seiliedig ar eich defnydd o’r gwasanaeth o'r flwyddyn flaenorol.
Mae hyn yn cynnwys:

  • nifer y casgliadau a gawsoch
  • y biniau a'r cynwysyddion a ddefnyddiwyd gennych
  • unrhyw fagiau neu labeli a gawsoch

 

Angen cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni:

ID: 12868, adolygwyd 09/03/2026