Gwastraff Masnachol
Dyletswydd Gofal
Eich Gwastraff
Eich Cyfrifoldeb -
Eich ‘Dyletswydd Gofal’ Cyfreithiol
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob busnes sicrhau bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer storio, trosglwyddo a gwaredu’r holl wastraff masnach a gynhyrchir yn gywir ac yn ddiogel.
Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn diffinio gwastraff busnes (neu fasnachol) fel gwastraff o safleoedd a ddefnyddir ar gyfer masnach neu fusnes neu at ddibenion chwaraeon, hamdden neu adloniant. Nid yw casglu gwastraff o fusnes wedi’i gynnwys yn eich ardrethi ac ni ddylid ymhonni ei fod yn wastraff cartref, h.y. trwy ei roi ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd a ddarperir gan y cyngor neu ei waredu mewn biniau sbwriel cyhoeddus. Byddai hyn yn cael ei ddosbarthu fel tipio anghyfreithlon ac mae’n drosedd ar wahân lle gellir defnyddio hysbysiad cosb benodedig.
O dan Adran 34(6) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 mae gan bob busnes ddyletswydd gofal am y gwastraff a gynhyrchir gan y busnes.
Mae’r ddyletswydd gofal yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes sicrhau:
- bod yr holl wastraff yn cael ei storio mewn cynwysyddion addas yn ddiogel fel na all ddod allan
- bod yr holl wastraff yn cael ei gasglu/trosglwyddo gan berson awdurdodedig/cludwr gwastraff
- bod yr holl wastraff yn cael ei waredu’n gyfreithlon mewn safle gwaredu gwastraff trwyddedig
- Mae Nodyn Trosglwyddo Gwastraff Rheoledig yn cael ei gwblhau ar gyfer pob trosglwyddiad a’i gadw am ddwy flynedd.
Os bydd eich busnes yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd gyfreithiol hon, gallai arwain at erlyn eich busnes a’i ddirwyo’n drwm, gan fod torri’r ddyletswydd gofal hon yn drosedd.