Gwastraff Masnachol

Dyletswydd Gyfreithiol i Ailgylchu

Chi sy'n gyfrifol am yr holl wastraff ar y safle yr ydych yn ei feddiannu. Mae hyn yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan eich staff, ymwelwyr a/neu unrhyw un arall ar y safle. Rhaid i chi sicrhau bod yr holl ailgylchu wedi'i wahanu'n gywir ac nad yw'n cael ei waredu fel gwastraff cyffredinol.

Mae’n orfodol i bob busnes yng Nghymru wahanu eu gwastraff at ddibenion ailgylchu. Mae hyn yn golygu na ellir casglu deunydd ailgylchu yn gymysg â gwastraff cyffredinol mwyach.

ID: 761, adolygwyd 12/03/2025