Gwastraff Masnachol

Gorfodi Dyletswydd Gofal

Mae gennym ni yr awdurdod i archwilio busnesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o ran y Ddyletswydd Gofal.

Mae hyn yn golygu y gall swyddog ddod i'ch safle a gofyn am gael gweld eich Nodyn Trosglwyddo Gwastraff Rheoledig a gweld bod eich gwastraff yn cael ei gadw'n ddiogel a'ch bod yn cael gwared arno yn y ffordd gywir.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) hefyd orfodi deddfwriaeth gwastraff, gan gynnwys gofynion y Ddyletswydd Gofal.

ID: 760, adolygwyd 30/10/2023