Gwastraff Masnachol

Gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Rhwng 3ydd Mawrth 2025 a 5ed Rhagfyr 2025, rydym yn cynnig casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos i fusnesau. Cyfeiriwch at y ddogfen tariff am y taliadau diweddaraf.

Mae’r cynllun yn eich galluogi i gael gwared ar:

Beth alla i ei roi yn y bin?

  • Gwrych, canghennau coed a llwyni wedi’u torri 
  • Gwreiddiau
  • Glaswellt a deunydd wedi’i gribinio 
  • Dail
  • Planhigion, blodau a chwyn

Ni chaniateir yr eitemau canlynol:

  • Bagiau, potiau a hambyrddau plastig 
  • Brics, rwbel, pridd a cherrig
  • Ffensys, stanciau a rhannau sied
  • Gwastraff bwyd gan gynnwys gwastraff plicio
  • Deunydd gwely anifeiliaid, sbwriel ac ysgarthion
  • Bonion coed a changhennau dros 4 modfedd (10cm) o ddiamedr

Wybodaeth am ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd

 

Eisiau cofrestru?

Os yw’r gwasanaeth yn iawn i chi, cysylltwch â’n tîm gwastraff masnach yn tradewaste@pembrokeshire.gov.uk fel arall ffoniwch 01437 775900

 

 

ID: 11515, adolygwyd 12/03/2025