Gwastraff Masnachol
Llety hunanddarpar a llety gwyliau
A yw hyn yn cynnwys llety hunanddarpar a llety gwyliau?
Yr ateb byr yw ydy. Os ydych chi’n defnyddio’ch eiddo ar gyfer busnes, sef ei osod fel tŷ gwyliau neu lety hunanddarpar neu’n ei redeg fel tŷ llety, rhaid i chi fod â threfniadau gwastraff ac ailgylchu masnachol ar waith.
Casgliadau ar gyfer busnesau bach a llety gwyliau
Mae gennym becynnau ar gael i fusnesau bach a llety gwyliau. Mae’r rhain yn cynnwys eich tâl dyletswydd gofal a llogi biniau. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael sy’n dibynnu ar faint eich busnes neu’ch llety gwyliau. Mae casgliadau bob wythnos ar gyfer ailgylchu a bob tair wythnos ar gyfer eich gwastraff cyffredinol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y pecynnau, cysylltwch â’r Tîm Gwastraff Masnach: Tradewaste@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 775900
Gwasanaeth gwastraff masnachol Ailgylchu
ID: 11242, adolygwyd 18/07/2024