Gwastraff Masnachol
Gwasanaeth gwastraff masnachol ailgylchu
- Bydd gwastraff ond yn cael ei gasglu o eiddo annomestig sy’n derbyn Dyletswydd Gofal: Nodyn Trosglwyddo Gwastraff a Reolir wedi'i gwblhau'n llawn a'i lofnodi fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991.
- Gall y naill barti neu'r llall derfynu cytundeb ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig o 28 diwrnod.
- Rhaid i gwsmeriaid sy'n terfynu eu cytundeb gwastraff masnach ddarparu Nodyn Trosglwyddo Gwastraff a Reolir a gyflenwir gan eu darparwr gwasanaeth newydd. Rhaid i gwsmeriaid sy'n cludo eu gwastraff eu hunain ddarparu copïau o'u rhif trwydded cludydd gwastraff uchaf/isaf.
- Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i newid neu addasu ein gwasanaeth a/neu’r telerau ac amodau wrth roi rhybudd digonol.
- Rhaid i’r ddau barti gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a gorchmynion perthnasol sy’n ymwneud â’r contract, gan gynnwys Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a’r rheoliadau ailgylchu newydd o 6 Ebrill 2024 ymlaen.
- Fel cynhyrchydd gwastraff, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i ailgylchu cymaint o’ch gwastraff â phosibl yn unol â’r newidiadau i Reoliadau Gwastraff (Cymru) a chyfarwyddeb cyn-driniaeth 2007.
- Mae ailgylchu’n orfodol fel rhan o’n gwasanaeth gwastraff masnach yn unol â’r rheoliadau ailgylchu newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 6 Ebrill 2024. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at derfynu eich cytundeb gwastraff masnach.
- Ni fydd adnewyddiadau gwastraff masnach yn cael eu prosesu pan fydd unrhyw falansau sy'n weddill yn cael eu dangos ar gyfrif y cwsmer.
- Ni allwn godi anfonebau am lai na £150.
- Mae pob anfoneb yn daladwy o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb. Bydd peidio â thalu yn golygu y bydd y gwasanaeth yn cael ei dynnu'n ôl.
- Rhaid i'r holl wastraff annomestig/ masnachol gael ei gadw yn sachau neu finiau glas Cyngor Sir Penfro. Rhaid clymu sachau a chau caeadau biniau; bydd unrhyw wastraff sy'n rhwystro'r caead rhag cau yn cael ei symud cyn ei wagio ac ni fydd yn cael ei gasglu. Rhaid i unrhyw wastraff a adewir wrth ymyl y bin fod mewn sachau gwastraff masnach glas Cyngor Sir Penfro; fel arall bydd y gwastraff ychwanegol yn cael ei adael.
- Cyfrifoldeb y cwsmer yw glanhau bin olwynion, os oes angen.
- Ni ddylai unrhyw gontractwr gwastraff arall wagio bin(iau) olwynion y Cyngor.
- Bydd y biniau a gyflenwir o dan y cytundeb hwn yn eiddo i'r Cyngor bob amser. Bydd y bin(iau) yn cael eu storio mewn modd diogel a chyfrifol ar y safle a rhaid eu cyflwyno’n addas i'w gwagau'n hwylus ar y diwrnod casglu. Dylai'r biniau fod ar gael i'w casglu gyda'r label sbwriel masnach priodol ynghlwm o 6:30am ar y diwrnod casglu.
- Rhaid i'r Cyngor allu cael mynediad i'r bin(iau) yn ystod y diwrnod casglu dynodedig. Os na allwn gael mynediad, bydd “Methwyd â Gwagio” yn cael ei gofnodi. Byddai ymweliad arall yn gyfystyr â chasgliad ychwanegol, os a phan fo’n bosibl, a byddai hynny'n golygu bod angen codi ffi ychwanegol o £30.00 am bob lori sydd ei hangen i ddychwelyd i'r safle
- Drwy gydol oes y contract bydd y cwsmer yn cymryd pob cam angenrheidiol i gadw'r biniau yn ddiogel a heb eu difrodi. Os bydd bin yn cael ei golli, ei ddinistrio neu ei ddifrodi am ba reswm bynnag, ac eithrio trwy esgeulustod ar ran y Cyngor, bydd y cwsmer yn talu'r gost lawn naill ai i atgyweirio neu adnewyddu'r bin(iau).
- Pan fydd contractwr gwastraff masnach yn cael ei ganslo, rhaid i'r cwsmer ddychwelyd yr holl finiau i'r Cyngor. Codir tâl am unrhyw finiau na fyddant yn cael eu dychwelyd.
- Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i beidio â symud unrhyw lwythi (biniau neu sachau) yr ystyrir eu bod yn amhriodol, hy dros bwysau.
- Rhaid rhoi pob sach a bin ar ymyl y ffordd oni bai bod asesiad risg ar gyfer lleoliad arall wedi'i gwblhau.
- Bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal cyn y bydd cais newydd am fin olwynion yn cael ei dderbyn er mwyn cytuno ar leoliad addas ar gyfer casglu’r bin(iau). Ni ddylid symud bin(iau) y Cyngor o'r lleoliad hwn. Os caiff y biniau eu hadleoli i ffwrdd o'r lleoliad a aseswyd o ran risg, bydd y Cyngor yn rhoi'r gorau i'r holl gasgliadau hyd nes y bydd y biniau yn cael eu dychwelyd i'r lleoliad gwreiddiol neu hyd nes y cynhelir yr asesiad risg newydd.
- Rhaid clymu sachau gwastraff cyffredinol a rhaid iddynt beidio â bod yn drymach na 15 cilogram.
- Rhaid gosod yr holl ailgylchu yn y biniau/cynwysyddion a ddarperir gan y Cyngor. Ni fydd deunydd ailgylchu a roddir mewn unrhyw gynwysyddion/biniau eraill yn cael ei gasglu.
- Ni fyddwn yn casglu unrhyw finiau/sachau ailgylchu halogedig sy'n cynnwys deunydd ailgylchu anghywir yn unol â'r rheoliadau ailgylchu newydd oherwydd didoli ailgylchu annigonol.
- Bydd unrhyw sachau/biniau gwastraff cyffredinol y canfyddir eu bod yn cynnwys y deunyddiau ailgylchadwy yn unol â'r rheoliadau ailgylchu newydd yn golygu na fydd eich gwastraff cyffredinol yn cael Telerau ac amodau ei gasglu.
- Mae gwastraff yn cael ei halogi pan fydd deunyddiau na ellir eu hailgylchu, neu ddeunyddiau sydd wedi'u didoli'n amhriodol yn cymysgu â gwastraff ailgylchadwy, gan rwystro'r broses ailgylchu.
- Gall diffyg cydymffurfio parhaus â'r rheoliadau ailgylchu arwain at ganslo'r cytundeb gwastraff masnach.
- Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i newid y math o gynhwysydd a ddefnyddir lle nad yw'r cynwysyddion presennol yn addas.
- Rhaid i fusnesau sy'n cyflenwi eu biniau 4 olwyn eu hunain sicrhau bod y bin wedi'i greu o ddur. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i wrthod gwagio unrhyw finiau eraill sydd wedi'u gwneud o ddeunydd arall, hy plastig. Er mwyn i'r Cyngor wagio'ch biniau eich hun yn beirianyddol, rhaid llofnodi ymwadiad atebolrwydd ymlaen llaw.
- Bydd unrhyw un sy'n ymrwymo i gontract am gyfnod sy'n llai na bloc o 3 mis yn gorfod talu tâl gweinyddol o £30.00.
- Bydd unrhyw gwsmer sy'n gwneud cais am gasgliad ailgylchu un ffrwd, hy cardbord yn unig yn hytrach na'n hystod gyflawn o ailgylchu, yn gorfod talu tâl un ffrwd o 10%.
- Os caiff y contract ei derfynu, dim ond am werth rholiau llawn o sachau/labeli y rhoddir ad-daliad amdanynt; bydd ffi weinyddol o 10% yn cael ei dynnu oddi ar bob ad-daliad.
- Oherwydd y newid yn y gwasanaeth, dim ond am roliau llawn o fagiau ailgylchu clir a/neu unrhyw labeli ailgylchu rhagdaledig y rhoddir ad-daliadau. Bydd yr ad-daliad yn seiliedig ar y pris a dalwyd a bydd yn cael ei dynnu o'ch cytundeb gwastraff masnach ar gyfer 2024/25. Os byddwch yn dewis peidio ag adnewyddu eich cytundeb gwastraff masnach gyda ni, bydd unrhyw ad-daliadau yn amodol ar ffi weinyddol o 10% fel yr amlinellwyd yn nhelerau ac amodau eich cytundeb yn 2023/24.
- Codir tâl danfon bach o £6.50 am ddanfon sachau ychwanegol - caniatewch 10 diwrnod gwaith ar gyfer danfon unrhyw sachau ychwanegol. Sylwch, trwy ddychwelyd eich cytundeb gwastraff masnach wedi’i gwblhau yn gynnar, bydd eich cyflenwad cyntaf o sachau yn rhad ac am ddim ym mis Ebrill 2024.
- Bydd ymweliadau ychwanegol yn ôl disgresiwn y rheolwyr a byddant yn costio £30.00 fesul lori (yn daladwy ymlaen llaw).
- Rhaid i gwsmeriaid sy'n gwneud cais am ailgylchu yn unig ddarparu Nodyn Trosglwyddo Gwastraff a Reolir ar gyfer cael gwared ar eu gwastraff gweddilliol.
- Mae disgownt o 5% ond yn berthnasol i gwsmeriaid sy’n dychwelyd eu cytundeb gwastraff masnach a thaliad blwyddyn lawn o fwy na £250.00 erbyn 8 Ebrill 2024. (Nid yw'r gostyngiad yn berthnasol i gwsmeriaid sydd angen anfoneb)
- Telerau ac amodau ar gyfer Casgliadau Gwastraff o’r Ardd
- Telerau ac amodau ar gyfer Casgliadau Cynhyrchion Hylendid Amsugnol
ID: 11528, adolygwyd 04/11/2024