Gwastraff Masnachol

Cwestiynau Cyffredin

Sut byddaf i'n gwybod beth sydd arnaf ei angen ar gyfer fy musnes?

Cysylltwch â'r adran gwastraff masnachol ar tradewaste@pembrokeshire.gov.uk a byddwn yn hapus i drafod eich gofynion gyda chi.

Pa wastraff ydw i’n gyfrifol amdano fel perchennog busnes?

Chi sy’n gyfrifol am yr holl wastraff ar y safle rydych yn ei feddiannu. Mae hyn yn cynnwys y gwastraff a gynhyrchir gan eich staff, eich ymwelwyr a/neu unrhyw un arall ar y safle. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr holl ailgylchu yn cael ei wahanu’n gywir ac nad yw’n cael ei waredu fel gwastraff cyffredinol.

Beth yw’r gofynion gwahanu?

O fis Ebrill 2024, bydd yn orfodol i bob busnes yng Nghymru wahanu

eu gwastraff at ddibenion ailgylchu. Mae hyn yn golygu na ellir casglu ailgylchu yn gymysg mwyach.

Beth mae’r rheoliadau ailgylchu newydd yn ei olygu i’m busnes?

Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ddeunyddiau ailgylchu yr ydych yn cael gwared arnynt ar hyn o bryd fel Ailgylchu Cymysg Sych (DMR) mewn bagiau ailgylchu masnachol clir gael eu gwahanu, eu storio, eu casglu a’u hailgylchu ar wahân.

Ydw i’n cael rhoi fy ailgylchu yn fy ngwastraff cyffredinol i’w waredu?

O fis Ebrill 2024, ni fyddwch bellach yn gallu cael gwared ar unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy o fewn eich gwastraff cyffredinol; rhaid ailgylchu pob eitem o’r deunyddiau ailgylchadwy penodedig ar wahân.

Beth yw’r deunyddiau ailgylchu penodedig?

  • Gwastraff Bwyd > 5kg yr wythnos
  • Papur a cherdyn
  • Carton (Bwyd a Diod) Gwydr
  • Metel (tun a chaniau)
  • Plastig (poteli a chynwysyddion plastig) Tecstilau heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff heb eu gwerthu

Sut ydw i’n paratoi ar gyfer y newidiadau newydd?

Meddyliwch am sut rydych chi’n rheoli eich gwastraff ar hyn o bryd a sut y

gallwch chi wneud y newidiadau angenrheidiol, h.y. drwy roi systemau ar waith i wahanu’ch ailgylchu yn ôl yr angen.

Lle gallaf gael cyngor ac arweiniad ar newid cyn casgliadau?

Mae ein tîm gwastraff masnach wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar wahanu gwastraff ac argymhellion ar yr opsiynau mwyaf cost-effeithiol a’r atebion ailgylchu ar gyfer anghenion eich busnes.

A allaf adolygu fy nghytundeb ar unrhyw adeg?

Gallwch. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn iawn i chi a’ch

anghenion busnes.

Bydd cyflwyno’r rheoliadau ailgylchu newydd yn golygu newidiadau enfawr i rai busnesau ac rydym am sicrhau bod y gwasanaeth yn iawn i chi.

A allaf siarad â rhywun yn bersonol i drafod fy anghenion?

Os hoffech drafod eich gofynion wyneb yn wyneb, mae apwyntiadau yn Nepo Thornton trwy e-bostio

tradewaste@pembrokeshire.gov.uk. Gellir trefnu apwyntiadau rhwng

10am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae gen i rholiau o fagiau ailgylchu clir a labeli yr wyf wedi talu amdanynt eisioes na allaf eu defnyddio mwyach?

Os oes gennych unrhyw rholiau llawn o fagiau ailgylchu clir a/neu unrhyw labeli ailgylchu yr ydych wedi talu amdanynt eisioes, byddwn yn hapus i gredydu eich cyfrif (yn seiliedig ar y pris a daloch chi) a fydd yn cael ei ddidynnu o’ch cytundeb gwastraff masnach 2024/25.

Os byddwch yn dewis peidio ag adnewyddu eich cytundeb gwastraff masnach gyda ni, bydd unrhyw ad-daliadau yn amodol ar ffi weinyddol o 10% fel yr amlinellwyd yn nhelerau ac amodau eich cytundeb yn 2023/24.

Sut ydw i’n adrodd problem gyda fy nghasgliadau?

E-bostiwch ein hadran gwastraff masnach yn

tradewaste@pembrokeshire.gov.uk neu fel arall, ffoniwch 01437 775900.

 

Beth sy’n digwydd os ydw i’n anghofio rhoi labeli ar fy miniau?

Dylech gysylltu â ni ar unwaith os oes angen casgliad ychwanegol arnoch. Bydd ymweliadau ychwanegol yn ôl disgresiwn y rheolwyr a byddant yn costio £30.00 fesul lori a/neu bob ymweliad. (yn daladwy ymlaen llaw).

Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn rhoi y biniau allan mewn pryd?

Dylech gysylltu â ni ar unwaith os oes angen casgliad ychwanegol arnoch. Bydd ymweliadau ychwanegol yn ôl disgresiwn y rheolwyr a byddant yn costio £30.00 fesul lori a/neu bob ymweliad. (yn daladwy ymlaen llaw).

Nid yw fy min ailgylchu wedi cael ei wagio?

Os oes label halogi gwyrdd ar eich bin, mae’n golygu bod problem gyda

chynnwys y bin. Bydd y label yn dweud wrthych beth yw’r broblem.

Beth sy’n digwydd os oes gan fy min label halogi gwyrdd ynghlwm?

Ni fyddwn yn gallu casglu eich biniau os yw eich bin gwastraff cyffredinol yn cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu neu os yw eich biniau ailgylchu wedi’u halogi â’r deunyddiau anghywir. Rhaid tynnu’r holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu allan a’u rhoi yn y cynwysyddion cywir i’w hailgylchu.

Ni chafodd fy min ei wagio heddiw ac roedd label “Methu Gwagio” ynghlwm wrtho.

Os nad ydym wedi gallu cael mynediad, bydd label “Methu Gwagio” ynghlwm wrth eich bin(iau) fel eich bod yn ymwybodol ein bod wedi ceisio gwagio’ch bin(iau).

O ble alla i brynu labeli gwagio biniau gwastraff cyffredinol ychwanegol?

Dim ond yn uniongyrchol o’r Adran Gwastraff Masnach y gellir prynu labeli gwagio biniau. I brynu labeli ychwanegol, e-bostiwch tradewaste@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 775900.

 

ID: 770, adolygwyd 26/04/2024