Gwastraff Masnachol

Mae Casgliadau Ailgylchu yn gallu arbed chi arian

Po fwyaf y gellwch ei ailgylchu, y lleiaf y bydd rhaid i chi ei dalu am gasgliadau gwastraff cyffredinol

Mae pris ein gwasanaeth ailgylchu yn gystadleuol iawn a gellir teilwra'r gwasanaeth i ateb anghenion eich busnes. Mae ailgylchu yn ffordd fwy costeffeithiol o ymdrin â'ch gwastraff na chael gwared â'ch gwastraff cyffredinol. Mae cost ailgylchu yn dibynnu ar y math o wasanaeth yr ydych yn ei ddewis; mae gennym lawer o ddewisiadau i chi ddethol o'u plith, yn
amrywio o'r math lleiaf o wasanaeth i'r gwasanaeth casglu mwyaf cynhwysfawr.

Bydd anfon eich gwastraff i’w dirlenwi’n costio pedair gwaith yn fwy nag ailgylchu i chi, lle mae ailgylchu’n helpu i warchod adnoddau gwerthfawr ac yn sicrhau eich bod yn ufuddhau i ddeddfwriaeth gyfredol.

Rydym yn hyderus y gallwn weithio gyda chi i ailgylchu mwy ac arbed arian i'ch busnes. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i annog lleihau gwastraff; gallwn gynnig cyngor ac arweiniad
i chi/i'ch busnes ynglŷn â chymhwyso technegau lleihau gwastraff i'r gwastraff yr ydych yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Peidiwch ag oedi rhag gofyn, os gwelwch yn dda.

ID: 764, adolygwyd 08/02/2023