Gwastraff Masnachol

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Tâl dyletswydd Gofal:

Mae pob busnes yn atebol am y tâl Dyletswydd Gofal. Fel rhan o’r tâl hwn, byddwch yn derbyn copi o’ch Nodyn Trosglwyddo Gwastraff Rheoledig y mae’n ofynnol i chi ei gadw am ddwy flynedd, cyflenwad o fagiau gwastraff bwyd mawr (yn dibynnu ar faint y biniau gwastraff bwyd ar y safle) a’ch dosbarthiad cyntaf o fagiau ym mis Ebrill 2024.

Sylwch na fydd gennych hawl mwyach i gasgliadau cardbord, gwastraff bwyd na gwydr am ddim. Mae’r rhain i gyd bellach yn opsiynau o fewn ein strwythur prisiau.

Llogi Biniau:

Bydd llogi biniau yn aros yr un fath ar gyfer biniau gwastraff cyffredinol. Bydd busnesau’n talu swm penodol am bob bin gwastraff cyffredinol am bob wythnos y mae’r bin ar y safle beth bynnag a gaiff y bin ei wagio ai peidio.

Gwastraff Cyffredinol:

Wrth weithredu’r rheoliadau ailgylchu newydd, dylech weld gostyngiad yn y gwastraff cyffredinol y mae’n rhaid i chi ei waredu. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn parhau â’n

gwasanaeth “Talu wrth Daflu” i ganiatáu i’n cwsmeriaid gael cyfle i asesu eu darpariaethau gwastraff cyffredinol presennol a lle bo’n bosibl, lleihau nifer y biniau/meintiau biniau i leihau costau.

Fel o’r blaen, bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i roi’r dewis i’n cwsmeriaid wneud penderfyniadau hyblyg ynghylch amlder eu casgliadau gwastraff cyffredinol. Y cyfan a ofynnwn yw bod labeli biniau wedi’u gosod ynghlwm wrth y biniau erbyn 6.30am ar ddiwrnod eich casgliad.    Os nad oes label bin ynghlwm wrth y bin(iau) pan fyddwn yn ymweld, ni fyddwn yn gwagio’r biniau.

Sachau Gwastraff Cyffredinol:

Mae busnesau’n gallu prynu talu am sachau gwastraff masnach glas ymlaen llaw ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol.

Sylwch, o fis Ebrill 2024, na fyddwch yn gallu gwaredu unrhyw ddeunyddiau ailgylchu o fewn eich gwastraff cyffredinol mwyach; rhaid ailgylchu pob deunydd ailgylchu craidd ar wahân. Mae gennym ystod lawn o opsiynau ailgylchu i weddu i’ch anghenion busnes unigol.

Sachau Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Rhagdaledig (Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu):

Ar gael i fusnesau sydd am waredu gwastraff cyffredinol/nad oes modd ei ailgylchu yn unrhyw un o’n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, gan roi’r hyblygrwydd i fusnesau gael gwared ar eu gwastraff pan mae’n gyfleus iddynt. Ni all y sachau hyn gynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu; peidiwch â chael eich tramgwyddo os gofynnwn i chi ddidoli a chael gwared ar yr holl ddeunyddiau ailgylchu yn y Ganolfan. Ni ellir gosod y sachau hyn ar gyfer eu casglu wrth ymyl y ffordd.

Tâl Danfon Sachau:

Mae angen talu ffi fechan o £6.50 ar gyfer danfoniadau ychwanegol o sachau - caniatewch 10 diwrnod gwaith ar gyfer danfon unrhyw fagiau ychwanegol.

Sylwch, drwy ddychwelyd eich cytundeb gwastraff masnach wedi’i gwblhau’n gynnar, mae eich dosbarthiad cyntaf o fagiau yn ystod mis Ebrill 2024 yn rhad ac am ddim. Fel arall, gellir prynu sachau o Ddepo Thornton.

 

Ailgylchu wedi’i Wahanu:

Mae ein gwasanaeth ailgylchu newydd yn cynnig amrywiaeth o gynwysyddion ailgylchu i gwsmeriaid ar gyfer eich anghenion ailgylchu, o sachau y gellir eu hailddefnyddio i finiau mawr 2 a 4 olwyn.

O fis Ebrill 2024, byddwn yn darparu casgliadau ailgylchu ar gyfer y ffrydiau canlynol:

Wythnosol

  • Gwastraff bwyd
  • Cardfwrdd a cherdyn
  • Poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig (ac eithrio plastig du a brown), cartonau bwyd a diod (gan gynnwys Tetra Pak) a phecynnu metel gan gynnwys caniau, tuniau, ffoil a hambyrddau ffoil

Bob pythefnos*

  • Poteli a jariau gwydr
  • Papur, papurau newydd a chylchgronau

Ni fyddwn bellach yn defnyddio gwagio rhagdaledig ar sail labeli ar gyfer ailgylchu; bydd cwsmeriaid yn cofrestru ar gyfer casgliadau ailgylchu rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. *efallai y bydd casgliad wythnosol ar gael yn dibynnu ar eich lleoliad.

Ar gyfer unrhyw decstilau a chyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu, gallwn drefnu casgliadau ad hoc.

ID: 763, adolygwyd 26/04/2024