Gwastraff Masnachol
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
Gall Cyngor Sir Penfro gynnig gwasanaeth casglu gwastraff masnach cynhwysfawr i chi. Trwy weithio gyda’r awdurdod lleol, gall cwsmeriaid fod yn sicr bod eu gwastraff yn cael ei reoli mewn modd proffesiynol ac, yn bwysicaf oll, yn gyfreithlon.
Rydym yn darparu gwasanaeth casglu sy’n cydymffurfio ac sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, gan gynnig cyngor
ac arweiniad cyfeillgar am ddim ar reoliadau ailgylchu newydd a chydymffurfio â deddfwriaeth gwastraff.
Rydym yn wasanaeth sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid sy’n cynnig dewis helaeth o gynwysyddion gwastraff mewn gwahanol feintiau i weddu i’ch anghenion busnes
Bydd ein gwasanaeth gwastraff masnach newydd yn cynnwys:
- Cardfwrdd
- Poteli Gwydr & Jariau
- Papur Cymysg
- Gwastraff Bwyd
- Tuniau, caniau plastigau a chartonau
- Gwastraff Gardd
- Gwastraff Cyffredinol
Newydd Ar Gyfer 2024:
- Cynhyrchion Hylendid Amsugnol (AHP)
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff heb eu gwerthu
- Tecstilau heb eu gwerthu
ID: 762, adolygwyd 26/04/2024