Gwastraff Peryglus
Gwastraff Peryglus y Cartref
O ganlyniad i'r gyfeireb tirlenwi, mae unrhyw wastraff arbennig sy'n cael ei gynhyrchu mewn cartrefi, wedi cael ei wahardd rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi nad ydynt yn derbyn gwastraff peryglus, ers mis Gorffennaf 2004.
Mae amryw gynhyrchion a ddefnyddir o ddydd i ddydd yn cael eu hystyried yn ‘beryglus' at ddibenion gwaredu. Yn eu plith mae cemegion yr ardd sy'n cynnwys plaleiddiaid, paentiau sail olew, nwyddau glanhau'r cartref, cynhyrchion trin lawnt a gwrthrewydd i geir. Ni ellir cael gwared â gwastraff peryglus â gwastraff ‘arferol' y cartref. Mae'n rhaid cael cymorth a chyngor arbenigol er mwyn cael gwared â gwastraff peryglus y cartref.
Gallwch ddod â meintiau bach o'r defnydd peryglus hwn er mwyn ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu gael gwared ag ef, yn ddiogel, yn unrhyw un o'n 6 Chanolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu. Bydd y math hwn o wastraff ond yn cael ei dderbyn os yw e'n dal i fod yn ei gynwysyddion gwreiddiol sydd wedi eu selio a'u nodi'n glir.
Ni ystyrir taw gwastraff y cartref yw barilau sy'n cynnwys 25 litr neu ragor o wastraff.
Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn derbyn asbestos.
Fel arall, gallwch wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer cael gwared ag asbestos trwy ddefnyddio'r dewisiadau canlynol:
Greenacres Skip Hire Ltd
Parc Busnes Celtic Link
Scleddau
Abergwaun
SA65 9RE
01348 811444
Bydd Cwm Environmental, sydd yn Sir Gâr, yn derbyn meintiau bach neu fawr o wastraff asbestos gan y cyhoedd sy'n byw yn Sir Benfro. Fodd bynnag, byddant yn codi tâl am hyn. Rhaid i’r cyhoedd ffonio Cwm Environmental (01267 275536) er mwyn trefnu cael gwared â'r gwastraff.
Mae asbestos o fusnesau masnachol yn cael ei dderbyn yn y safle tirlenwi, ac mae'n rhaid i'r busnesau hyn ffonio Cwm Environmental er mwyn cael gwybod beth yw prisiau cael gwared â'r gwastraff hwn. Ar ben hynny mae'n rhaid i'r busnes drefnu a gwneud y gwaith papur perthnasol ar gyfer y llwyth er mwyn symud y defnydd hwn, yn ôl gofynion Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer y gwastraff hwn sy'n cael ei gludo i safle tirlenwi.
Yellow Pages:
Gallwch fwrw golwg yn Yellow Pages a threfnu'r casgliad eich hunan, trwy fwrw golwg o dan adran ‘Waste Disposal'. Fodd bynnag, dylech sicrhau bod y contractwr a ddewiswch yn gludwr cofrestredig sydd wedi ei drwyddedu i gael gwared ag asbestos/gwastraff peryglus. Os ydych chi'n ansicr ynghylch hyn gallwch gysylltu ag Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gallu rhoi manylion cludwyr cofrestredig ichi. Ni ddylai asbestos gael ei gludo, oni bai taw cludwr cofrestredig sy'n gwneud hynny.
Cyfoeth Naturiol Cymru:
Ymholiadau Cyffredinol: 0300 065 3000 (Dydd Llun i ddydd Gwener 8:00am -6:00pm)
Llinell frys ynghylch digwyddiadau: 0800 807 060 (Rhadffon* 24 Awr)
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyfoeth Naturiol Cymru Gwefan
Am ragor o fanylion cofiwch ffonio'r Ganolfan Gyswllt ar: 01437 764551