Gweithdrefnau Arbennig

Cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer tatŵio, tyllu’r corff ac electrolysis yng Nghymru

O 29 Tachwedd 2024 ymlaen, rhaid i bob ymarferydd a sefydliad gydymffurfio â’r Rheoliadau Cymreig newydd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a chynnal safonau proffesiynol.

Bydd yn ofynnol i bob mangre ac ymarferydd sy’n cynnig triniaeth arbennig fel y’i diffinnir gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (yn agor mewn tab newydd) 

  • Aciwbigo
  • Tyllu'r corff
  • Electrolysis
  • Tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol/microlafnu) 

gael trwydded. Mae'r gyfundrefn drwyddedu yn disodli'r cynllun cofrestru presennol.

Bydd trefniadau pontio ar gyfer unrhyw gofrestriadau cyfredol.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Trosolwg o'r gyfundrefn drwyddedu

Nod y drefn drwyddedu newydd yw:

  • Diogelu iechyd a diogelwch cleientiaid
  • Rheoleiddio safonau hylendid a diogelwch mewn arferion tatŵio, tyllu’r corff ac electrolysis
  • Sicrhau bod ymarferwyr yn gymwys ac wedi'u hyfforddi
  • Hyrwyddo proffesiynoldeb o fewn y diwydiant

Gofynion allweddol ar gyfer busnesau

Cais am drwydded

Rhaid i bob person a mangre wneud cais am drwydded. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais ymhell cyn y dyddiad cau er mwyn osgoi unrhyw darfu ar eich busnes.

Safonau iechyd a diogelwch

Rhaid i sefydliadau gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch llym, gan gynnwys cynnal amgylchedd glân, defnyddio offer wedi'i sterileiddio, a dilyn dulliau gwaredu gwastraff priodol.

Cymwysterau ymarferwyr

Rhaid i bob ymarferydd feddu ar gymwysterau perthnasol a dangos cymhwysedd. 

Cydsyniad gan y cleient

Gwnewch yn siŵr bod cleientiaid yn cyflwyno ffurflenni cydsynio priodol cyn unrhyw driniaeth. Mae hyn yn amddiffyn eich busnes a'r cleient.

Archwiliadau rheolaidd

Dylech ddisgwyl archwiliadau cyfnodol gan yr adran Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau cydymffurfedd â safonau trwyddedu. Mae’n hanfodol cynnal safonau uchel bob amser.

 

 

ID: 12217, adolygwyd 29/01/2025