Gweithdrefnau Arbennig
Trwydded triniaeth arbennig
Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy'n rhoi unrhyw driniaeth arbennig (aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a/neu datŵio) ar rywun arall yng Nghymru gael trwydded. Bydd y drwydded yn pennu pa driniaeth(au) arbennig y mae'r ymarferydd wedi'i drwyddedu i'w hymarfer, yn ogystal â rhestru'r fangre y mae'r ymarferydd yn gweithredu ynddi. Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded ei hun. Dim ond mewn mangreoedd/cerbydau a gymeradwywyd y gall ymarferwyr trwyddedig weithredu.
Bydd yn drosedd i ymarferydd roi triniaeth arbennig heb drwydded neu roi unrhyw driniaethau o fangreoedd neu gerbydau nad ydynt wedi'u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol a nodir yn y rheoliad ar gyfer ymarferwyr a mangreoedd/cerbydau.
Sut i wneud cais
Ceisiadau gan ymarferwyr nad ydynt wedi cofrestru eisoes
Ni fydd ymarferwyr newydd nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru o dan Ddeddf 1982 ar 29 Tachwedd 2024 yn gymwys ar gyfer y trefniadau pontio. Ni chaniateir i’r ceiswyr hyn fasnachu/ymarfer nes eu bod wedi’u trwyddedu (a, phan fo’n berthnasol, bod eu mangre wedi’i chymeradwyo/cerbyd wedi’i gymeradwyo) o dan y cynllun newydd.
Dim ond ar neu ar ôl 29 Tachwedd 2024 y gellir cyflwyno ceisiadau newydd.
Ceisiadau gan ymarferwyr sydd eisoes wedi’u cofrestru
Bydd yn ofynnol i ymarferwyr sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd o dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am eu trwydded triniaeth arbennig eu hunain ac, os oes angen, dystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre/cerbyd.
Bydd gan y rhai sydd â chofrestriadau presennol hyd at 28 Chwefror 2025 i gyflwyno cais am drwydded a byddant yn elwa ar drwydded bontio. Bydd y drwydded bontio hon yn caniatáu i ymarferwyr presennol barhau i roi triniaethau arbennig (yn unol â’u dogfen gofrestru gyfredol), tra bo’r cais am drwydded newydd yn cael ei brosesu.
Bydd trwydded bontio neu dystysgrif gymeradwyo yn cael ei dyroddi’n awtomatig i bob mangre ac ymarferydd cofrestredig presennol, ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud cais am hyn.
Rhaid gwneud cais am drwydded o dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o dri mis.
Ni fydd unrhyw un nad yw wedi cyflwyno cais cyflawn erbyn diwedd y cyfnod pontio, hy 28 Chwefror 2025, yn gallu ymarfer yn gyfreithlon. Ni fydd unrhyw eithriadau i’r gofyniad i gael trwydded/tystysgrif ac ni fydd unrhyw estyniadau i’r cyfnod pontio hwn. Rhaid cyflwyno’r cais i licensing@pembrokeshire.gov.uk gyda’r canlynol Ar ôl y dyddiad hwn bydd unrhyw gais yn cael ei brosesu fel pe bai’n gais newydd ac ni fydd ymarferwyr yn gallu rhoi unrhyw driniaethau yn gyfreithlon nes bod trwydded wedi cael ei chymeradwyo.:
Dogfennaeth ategol
- Y ffi ymgeisio sydd i’w thalu drwy Fy Nghyfrif
- Un ffotograff lliw ar ffurf llun pasbort gyda’r wyneb yn llawn
- Tystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig
- Tystiolaeth o dystysgrif datgeliad sylfaenol diweddar (o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) – nad yw’r dyddiad dyroddi yn gynharach na thri mis cyn dyddiad cyflwyno’r cais cyflawn
- Datganiad o droseddau perthnasol (fel y nodir yn y Ddeddf)
- Tystiolaeth o gwblhau Dyfarniad Lefel 2 a reoleiddir (atal a rheoli heintiau) yn llwyddiannus
- Gwirio enw a dyddiad geni (ee pasbort, trwydded yrru ac ati)
- Gwirio cyfeiriad preswyl presennol (ee trwydded yrru, llythyr treth gyngor, bil cyfleustodau)
Ffioedd
Mae'r ffioedd isod wedi'u cymeradwyo ar gyfer pob trwydded, trwydded dros dro neu ar gyfer amrywiadau eraill. Nid yw cais yn cael ei drin fel cais sydd wedi’i wneud nes bod ffi’r cais wedi dod i law ac wedi clirio.
- Trwydded triniaeth arbennig (tair blynedd) £203
- Trwydded triniaeth arbennig dros dro (saith diwrnod ar y mwyaf) £92
- Amrywio trwydded triniaeth arbennig (ychwanegu triniaeth newydd) £131
- Amrywio trwydded triniaeth arbennig (newid manylion) £26
- Cael trwydded triniaeth arbennig newydd £13
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at healthandsafety@pembrokeshire.gov.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hynt eich trwydded neu am gyflwyno cais, anfonwch e-bost at licensing@pembrokeshire.gov.uk
Gwybodaeth bellach
Cymdeithas Brydeinig y tyllwyr corff proffesiynol, yr UK (yn agor mewn tab newydd)