Gweithdrefnau Arbennig
Triniaethau arbennig – tystysgrif mangre
Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod pob mangre wedi’i chymeradwyo neu bob cerbyd wedi’i gymeradwyo lle mae unrhyw un o'r triniaethau arbennig penodedig (aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a/neu datŵio) yn cael ei rhoi gan ymarferwyr trwyddedig. Bydd y dystysgrif gymeradwyo yn cael ei dyroddi i'r person sy'n gyfrifol am y busnes mewn mangre (gall hyn fod y perchennog, y rheolwr neu’r ymarferydd – nid oes angen iddo fod yn rhoi'r triniaethau ei hun ac efallai nad yw’n cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol). Os yw’r ymarferwr yn meddu ar drwydded triniaeth arbennig ond ei fod yn gyflogai, neu ei fod yn rhentu cadair/ystafell ym musnes rhywun arall, yna nid oes angen iddo feddu ar ei dystysgrif gymeradwyo ei hun ar gyfer mangre/cerbyd, ond rhaid iddo barhau i wneud yn siŵr mai dim ond mewn mangre neu gerbyd a gymeradwywyd y mae’n gweithredu.
Sut i wneud cais
Ceisiadau oddi wrth mangreoedd newydd
Ni fydd mangreoedd/cerbydau newydd nad ydynt eisoes wedi’u cofrestru o dan Ddeddf 1982 ar y dyddiad dod i rym, sef 29 Tachwedd 2024, yn gymwys ar gyfer y trefniadau pontio. Ni ellir defnyddio’r mangreoedd hyn ar gyfer unrhyw un o’r triniaethau arbennig penodedig nes eu bod wedi’u cymeradwyo (a phan fo’n gymwys, nes bod yr ymarferwyr wedi’u trwyddedu) o dan y cynllun newydd.
Ceisiadau oddi wrth mangreoedd sydd eisoes wedi’u cofrestru
Bydd yn ofynnol i fangre sydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd o dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am ei thystysgrif cymeradwyo mangre ei hun ac, os oes angen, drwydded triniaeth arbennig.
Bydd gan y rhai sy’n gyfrifol am fusnes, pan fo gan y fangre gofrestriad eisoes, tan 28 Chwefror 2025 i gyflwyno cais am gymeradwyaeth, a byddant yn elwa ar drwydded bontio. Bydd cael y gymeradwyaeth bontio hon yn caniatáu i fangreoedd presennol weithredu busnes triniaethau arbennig yn unol â’u dogfen gofrestru gyfredol, tra bo’r cais am drwydded newydd yn cael ei brosesu (rhaid i ymarferwyr hefyd fod wedi’u trwyddedu neu fod â sicrwydd yswiriant o dan y trefniadau pontio hyn i roi unrhyw driniaeth arbennig yn y mangreoedd hyn).
Bydd trwydded bontio neu dystysgrif gymeradwyo yn cael ei dyroddi’n awtomatig i bob mangre ac ymarferydd cofrestredig presennol, ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud cais am hyn.
Rhaid gwneud cais am gymeradwyaeth o dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o dri mis (29 Tachwedd 2024 – 28 Chwefror 2025).
Os na fydd cais wedi’i wneud am dystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre/cerbyd erbyn diwedd y cyfnod pontio o dri mis, yna ni fydd caniatâd cyfreithiol mwyach i’r fangre hon gael ei defnyddio gan ymarferwyr i roi unrhyw un neu ragor o’r triniaethau arbennig penodedig. Ni fydd unrhyw eithriadau i'r gofyniad i gael tystysgrif gymeradwyo ac ni fydd unrhyw estyniadau i’r cyfnod pontio hwn.
Ffioedd
Cynigir y ffioedd isod ar gyfer pob tystysgrif gymeradwyo, pob tystysgrif gymeradwyo dros dro neu ar gyfer amrywiadau eraill. Nid yw cais yn cael ei drin fel cais sydd wedi’i wneud nes bod ffi’r cais wedi dod i law ac wedi clirio.
- Newydd Tystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre (tair blynedd). £385
- Mangre/cerbyd a gymeradwywyd – cymeradwyaeth dros dro (digwyddiad ategol) £385
- Mangre/cerbyd a gymeradwywyd – cymeradwyaeth dros dro (confensiwn/prif ddiben) £680
- Amrywio tystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre/cerbyd (ychwanegu triniaeth) £189
- Amrywio tystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre/cerbyd (newid strwythurol) £189
- Amrywio tystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre/cerbyd (newid manylion) £26
Cyfnod trwydded
Mae'r dystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre yn para am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad dyroddi'r drwydded. Mae tystysgrifau dros dro yn ddilys am ddim mwy na saith diwrnod.
Cymhwysedd
Rhaid i'r ymgeisydd fod yn 18 oed neu'n hŷn.
Ni fydd unrhyw un nad yw wedi cyflwyno cais cyflawn erbyn diwedd y cyfnod pontio, hy 28 Chwefror 2025, yn gallu ymarfer yn gyfreithlon. Ni fydd unrhyw eithriadau i’r gofyniad i gael trwydded/tystysgrif ac ni fydd unrhyw estyniadau i’r cyfnod pontio hwn. Rhaid cyflwyno’r cais i licensing@pembrokeshire.gov.uk gyda’r canlynol Ar ôl y dyddiad hwn bydd unrhyw gais yn cael ei brosesu fel pe bai’n gais newydd ac ni fydd ymarferwyr yn gallu rhoi unrhyw driniaethau yn gyfreithlon nes bod trwydded wedi cael ei chymeradwyo
Dogfennaeth ategol
Rhaid i’r canlynol ddod gyda’r cais:
- Plan o fangre/cerbyd (rhaid iddo gynnwys: y mynedfeydd i’r fangre ac i unrhyw ystafelloedd a’r allanfeydd ohoni neu ohonynt, mesuriadau a siâp unrhyw ystafell sydd yn y fangre a lleoliad sinciau cyfarpar, biniau offer miniog, ystafelloedd staff, mannau/cyfleusterau/ystafelloedd storio ar gyfer cynhyrchion a chyfarpar, toiledau, mannau/ystafelloedd aros, basnau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gweithfannau).
- Tystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys sydd gan yr ymgeisydd mewn cysylltiad â'r fangre neu'r cerbyd.
- Tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi cwblhau Dyfarniad Lefel 2 a reoleiddir (atal a rheoli heintiau) yn llwyddiannus.
Prosesu ac amserlenni
Bydd ceisiadau newydd yn cael eu prosesu o fewn yr amserlenni a nodir yng nghanllawiau statudol/anstatudol Llywodraeth Cymru.
Bydd ceisiadau gan fangreoedd cofrestredig presennol, sy’n gwneud cais am dystysgrif gymeradwyo ar gyfer mangre o fewn y cyfnod pontio o dri mis, yn cael eu prosesu o fewn tri mis i ddiwedd y cyfnod pontio hwn, neu’n gynharach (hy chwe mis o’r dyddiad dod i rym).
Deddfwriaeth ac amodau
Mae’r Rheoliadau drafft sy’n cynnwys gofynion ac amodau penodol ar gyfer mangreoedd ar gael yn Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 (yn agor mewn tab newydd)
Y rheoliad trosfwaol sy’n nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer triniaethau arbennig a gofynion cyfreithiol eraill yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4) (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at healthandsafety@pembrokeshire.gov.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hynt eich trwydded neu am gyflwyno cais, anfonwch e-bost at licensing@pembrokeshire.gov.uk
Arweiniad pellach