Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor
Gweithio i'r Cyngor
Mae gan Cyngor Sir Penfro ymdeimlad clir o bwrpas, a amlygir yn ein gweledigaeth -
'Gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau yn Sir Benfro'
Yn gysylltiedig ag amcanion lles lleol a Chymru gyfan, mae'r weledigaeth hefyd yn cael ei thanategu gan dair egwyddor arweiniol:
-
Ymdeimlad o Bwrpas - Ein pwrpas yw ysbrydoli a chynorthwyo unigolion, cymunedau a sefydliadau er mwyn sicrhau gwelliannau i les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
-
Gwelliant - Ein nod fydd trawsnewid y ffordd mae’r sefydliad yn gweithio, gan arloesi a chwilio am yr arferion gorau i’n helpu ni i gyflawni mewn ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon. Ein nod fydd parhau i wneud dewisiadau doeth, trwy dorri’r gôt yn ôl y brethyn ac osgoi prosesau diangen a gwastraff.
-
Cydweithio - Byddwn yn cydweithio i helpu darparu cymorth a gwasanaethau cysylltiedig i drigolion, cymunedau a sefydliadau Sir Benfro, ac ymwelwyr â’r sir. Rydym yn ymroi i ddatblygu partneriaethau effeithiol gyda chyrff sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o fewn y sir, a’r tu allan i’r sir, yn barhaus.
Mae'r egwyddorion hyn yn uniongyrchol berthnasol i waith ein pobl trwy gydol y gyfundrefn.