Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor

Cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog – Deiliad Gwobr Aur

Rydym yn cydnabod y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ynghyd â'u teuluoedd, gael eu trin gyda thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu hamddiffyn drwy eu gwasanaeth.

Er mwyn dangos yr ymrwymiad hwn, mae Cyngor Sir Penfro wedi addo'n falch ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys gweithwyr presennol a darpar weithwyr sy'n aelodau o'r gymuned hon.

Rydym yn ddeiliaid Gwobr Aur o dan Gynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr y Lluoedd Amddiffyn, sef anrhydedd uchaf Llywodraeth y DU i gyflogwyr sy'n cefnogi'r Lluoedd Arfog. Rydym yn croesawu ceisiadau recriwtio gan aelodau wrth gefn, cyn-filwyr, hyfforddwyr cadetiaid, a phartneriaid neu briod milwrol.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal arferion cyfeillgar i'r Lluoedd Arfog yn ein prosesau recriwtio a dethol, ac i hyrwyddo'r gefnogaeth hon yn weithredol o fewn ein rhwydweithiau, ein diwydiant, ac wrth ymgysylltu â sefydliadau Cadetiaid y Lluoedd Arfog.

ID: 5912, adolygwyd 08/05/2025