Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor
Datganiad Cyfle Cyfartal
Nod y datganiad hwn yw sicrhau triniaeth a chyfle teg a chyfartal i holl ddefnyddwyr gwasanaethau'r Cyngor a chyflogeion y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Sir Benfro.
Dyletswyddau'r Cyngor
1. Bydd Cyngor Sir Penfro yn gweithio tuag at gyfle cyfartal i bawb ac yn defnyddio'i egni a'i adnoddau i gyflawni'r nod hwn.
2. Ni fydd y Cyngor Sir yn gwahaniaethu ar sail oed, lliw, anabledd, tarddiad ethnig, rhyw, statws HIV, statws mewnfudiad, statws priodasol, statws cymdeithasol neu economaidd, cenedlaetholdeb neu darddiad cenedlaethol, hil, credoau crefyddol, cyfrifoldeb am ddibynyddion, rhywioldeb, aelodaeth o undeb llafur neu gollfarn droseddol amherthnasol. Bydd y Cyngor yn hybu mynediad a chyfle cyfartal i ddinasyddion sy'n wynebu triniaeth annheg ar unrhyw un o'r seiliau hyn gan gynnwys y rhai sydd dan anfantais oherwydd ffurfiau lluosog o wahaniaethu.
3. Bydd y Cyngor Sir yn ymdrechu i ddileu hiliaeth, rhywiaeth a phob math o wahaniaethu. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn am ymroddiad i gael gwared ar wahaniaethu a hefyd camau gweithredu trwy bolisïau i wneud iawn am yr anghydraddoldebau yn sgil gwahaniaethu yn y gorffennol
4. Rydym yn ymroddedig i hybu mynediad cyfartal i'r holl wasanaethau a ddarperir gennym. Dylai gwasanaethau (a gwybodaeth am wasanaethau) gael eu llunio i fod yn briodol i anghenion pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Sir Benfro.
5. Bydd y Cyngor yn gweithredu i sicrhau mynediad cyfartal i'n swyddi ar bob lefel ac i ddatblygu ein holl gyflogeion i lefel sy'n gymesur â'u cyfrifoldebau.
6. Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi amrywiaeth pawb sy'n byw, yn gweithio ac sy'n ymweld â Sir Benfro ac yn ystyried bod hyn yn rym cadarnhaol i ddatblygu cydlyniad cymunedol trwy ei ymroddiad tuag at gyfle cyfartal.
7. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i wrthwynebu aflonyddu ac erledigaeth preswylwyr, defnyddwyr gwasanaethau a chyflogeion ar y seiliau a nodwyd uchod a bydd yn gweithredu i wrthweithio yn erbyn aflonyddu yn y gymuned, wrth ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau ac yn y gweithle.
Pam Cael Datganiad?
1. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu'r holl wasanaethau a'r cyfleoedd cyflogaeth yn deg a heb wahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldebau penodol y Cyngor ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
2. Mae'r ddyletswydd hon yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gwahaniaethau yn digwydd amlaf yn benodol ar sail oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol yn ogystal â deddfwriaeth ynglŷn â hawliau dynol, adsefydlu troseddwyr a chyflog cyfartal.
3. Gall effeithiau andwyol yn sgil cael eich eithrio rhag cyfleoedd oherwydd gwahaniaethu ac aflonyddu fod yn ddifrifol. Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod eithrio pobl rhag cael cyfle yn creu anfantais i'r rhai sy'n wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu ond hefyd yn amddifadu ein cymunedau o gyfraniad llawn eu doniau a'u hegni.
Mae grymuso pobl i gyfrannu'n llawnach yn cyfoethogi ein bywyd cymunedol ac yn cyfrannu tuag at gydlyniad cymunedol.
Y Datganiad Yn Fanylach
Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gwahanol ffurf i'r gwahaniaethu sy'n effeithio ar wahanol grwpiau yn ein cymuned a'i fod yn cael effeithiau penodol. Rydym yn ymroddedig i gymryd camau i frwydro yn erbyn gwahaniaethu uniongyrchol, anuniongyrchol a sefydliadol ac i sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael cyfle cyfartal.
1. Oed
Mae gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu bod yn "hen" neu'n "ifanc yn endemig yn ein cymdeithas. Yn aml, gwneir rhagdybiaethau gwallus ar sail rhagfarn a stereoteipiau ynglŷn â galluoedd a nodweddion pobl iau a hŷn sy'n cael effaith niweidiol arnyn nhw. Yn rhy aml mae pobl iau a hŷn yn cael gwrthod y cyfle i gymryd rhan yn llawn mewn penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau ac yn cael gwrthod yr hawl i gael yr annibyniaeth a'r cyfrifoldeb y mae hawl ganddyn nhw eu cael.
Mae llawer yn wynebu cael eu heithrio rhag cyflogaeth ac ynghyd â ffactorau eraill mae'n arwain yn anghyfartal at dlodi, incwm isel a'r anallu i fwynhau pethau da bywyd. Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu'r math hwn o wahaniaethu ac o'r farn y dylai pob dinesydd, waeth beth yw ei oed, gael cyfle cyfartal.
2. Anabledd
Fel gyda Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (DGSA), er mwyn cael ei amddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid bod gan unigolyn nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu neu ei gallu i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd.
Mae gan lawer o bobl yn ein cymuned anabledd ac mae anghenion a gofynion y rhai sydd â gwahanol anableddau yn amrywio'n helaeth.
Mae'r Cyngor yn ymroddedig i weithredu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
3. Ailbennu Rhywedd
Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu gwahaniaethu yn erbyn cyflogeion sy'n bwriadu dilyn proses, neu sy'n mynd trwy broses neu sydd wedi mynd trwy broses ailbennu rhywedd. Yn yr un modd mae'n gwrthwynebu i'r un graddau i driniaeth annheg o aelodau trawsrywiol yn ein cymunedau.
4. Priodas a Phartneriaeth Sifil
Bydd y Cyngor yn amddiffyn cyflogeion sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil yn erbyn gwahaniaeth yn unol â'r ddeddfwriaeth.
5. Beichiogrwydd a Mamolaeth
Mae'r Cyngor yn amddiffyn cyflogeion rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn ystod cyfnod eu habsenoldeb beichiogrwydd a mamolaeth. Mae'n cynnal polisïau i gefnogi menywod sy'n dychwelyd i weithio.
6. Hil
Mae hiliaeth yn rym pwerus a distrywiol yn ein cymdeithas. Mae rhagfarn a stereoteipiau ynglŷn â phobl ddu a phobl o nifer o gymunedau lleiafrifol ethnig gwahanol yn arwain at wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae'r gwahaniaethu hwn yn rhan o brofiad bywyd bob dydd.
Mae'r Cyngor yn croesawu'r cymunedau a'r diwylliannau amrywiol yn y sir a'r ardal gyfagos ac yn eu gweld fel grym cadarnhaol er lles pawb. Rydym yn ymroddedig i hybu dealltwriaeth a chydweithrediad rhwng ein gwahanol gymunedau ac i frwydro yn erbyn gwahaniaethau ar sail hil ar bob ffurf. Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu gwahaniaethu yn erbyn pob cymuned leiafrifol ethnig
7. Crefydd neu Gredo
Gall pobl wynebu gwahaniaethu oherwydd eu credoau crefyddol, bod yn aelodau o grwpiau ffydd neu am eu bod wedi dewis peidio â glynu at gredo neu grŵp crefyddol. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu ac eithrio ar sail crefydd neu gredo.
8. Rhyw
Gall dynion a menywod yn ein cymunedau wynebu anfantais mewn sawl ffordd. Gallan nhw wynebu anfantais oherwydd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol a all eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.
Efallai y bydd ein staff dan anfantais weithiau oherwydd eu cyfrifoldeb gofal a all eu hatal rhag cyrraedd eu potensial llawn yn y gweithlu.
Mae'r Cyngor yn ymroddedig i hybu cyfle cyfartal i ddynion a menywod a bydd yn cymryd camau i gael gwared ar wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y gwasanaethau a ddarperir gennym, yn ein polisïau ac arferion cyflogaeth ac o ran mynediad i brosesau democrataidd lleol. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i sicrhau bod ganddo bolisïau a gweithdrefnau cyflogaeth a fydd yn amddiffyn egwyddor triniaeth deg a chyfartal i'r holl gyflogeion yn y gweithle.
9. Cyfeiriadedd Rhywiol
Mae'r Cyngor yn ymroddedig i greu amgylchedd gweithio cadarnhaol lle mae cyflogeion lesbiaid, hoyw a deurywiol yn cael eu trin yn deg.
Mae hefyd yn ymroddedig i ddileu gelyniaeth ac ofn tuag at y grwpiau hyn os ydyn nhw'n ddefnyddwyr gwasanaethau'r Awdurdod gan geisio cyrraedd sefyllfa lle mae lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol yn cael eu derbyn fel dinasyddion cyfartal a gwerthfawr.
10. Aelodaeth a Gweithgareddau Undeb Llafur
Mae'r Cyngor yn parchu hawl ei holl gyflogeion i fod yn aelodau o undeb llafur. Fel cyflogwr, mae'r Cyngor yn cydnabod nifer o undebau llafur ac yn ymroddedig i berthynas agored ac adeiladol gyda nhw. Hefyd, mae'r Cyngor yn ymroddedig i gymryd camau gweithredu sy'n cynorthwyo i sicrhau bod pawb sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned yn gallu elwa ar fod yn aelod o undeb llafur.
11. Addysg
Mae gan ysgolion oblygiadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ran staff, fel cyrff sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ac fel darparwyr gwasanaethau.
Cyngor Sir Penfro yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion Cymunedol ac ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Benfro. Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Derbyn weithredu mewn unrhyw ffordd sy'n anghyson â goblygiadau cyfreithiol eraill sy'n ymwneud â derbyn i ysgolion. Mae'r Cyngor Sir yn cydymffurfio â'r canllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y Cod Statudol Derbyn i Ysgolion.
12. Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'r Cyngor yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010