Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor

Datganiad Polisi At Recriwtio Cyn-Drosed

 

  1. Mae Cyngor Sir Penfro yn sefydliad sy'n defnyddio gwasanaeth gwirio y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer swyddi cyfrifol ac, o'r herwydd, mae'n cydymffurfio yn llwyr â Chod Ymarfer ac yn ymrwymo i drin yr holl ymgeiswyr am swyddi yn deg. Mae'n ymrwymo i beidio â gwahaniaethu yn annheg yn erbyn rhywun sy'n destun gwiriad DBS ar sail euogfarn neu unrhyw wybodaeth arall a ddatgelir.
  2. Mae Cyngor Sir Penfro yn ymroddedig i drin yn deg ei staff, ei ddarpar staff neu ddefnyddwyr ei wasanaethau,waeth beth fo'u hil, eu rhyw, eu crefydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu cyfrifoldebau am ddibynyddion, eu hoed, eu hanabledd corfforol/meddyliol neu eu cefndir troseddu.
  3. Rydym wedi ysgrifennu polisi ynghylch recriwtio cyn-droseddwyr, ac mae'r polisi hwn ar gael i bob ymgeisydd DBS pan mae'r broses yn dechrau.
  4. Rydym yn mynd ati i hybu cydraddoldeb cyfle i bawb sydd â'r gymysgedd iawn o ddoniau, sgiliau a photensial, a chroesawn ceisiadau oddi wrth amrywiaeth eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rheiny sydd â hanes o droseddau. Byddwn yn dethol ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad ar sail eu sgiliau, eu cymwysterau a'u profiad.
  5. Byddwn yn gwneud cais am wiriad DBS yn unig ar ôl y bydd asesiad risg trylwyr wedi dangos bod hyn yn gyfatebol ac yn berthnasol i'r swydd dan sylw. Yn achos y swyddi hynny lle bydd galw am wiriad DBS, bydd yr holl ffurflenni cais a chrynodebau recriwtio yn cynnwys datganiad y bydd y Cyngor yn gwneud cais am wiriad DBS pe byddai'r unigolyn yn cael cynnig y swydd.
  6. Pan fydd gwiriad DBS yn rhan o'r broses recriwtio, byddwn yn annog yr holl ymgeiswyr fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad i ddarparu manylion eu hanes o droseddau yn gynnar yn y broses ymgeisio. Gofynnwn eu bod yn anfon y wybodaeth yma mewn modd cyfrinachol, ar wahân, i rywun y bydd Cyngor Sir Penfro yn eu dynodi, ac rydym yn gwarantu mai'r rheiny y mae angen iddynt weld y wybodaeth, fel rhan o'r broses recriwtio, yn unig fydd yn ei gweld.
  7. Oni bai, oherwydd y math o swydd ydyw, y caniateir i Gyngor Sir Penfro ofyn cwestiynau am eich cofnod troseddol drwyddo draw, byddwn ni ond yn gofyn cwestiynau am gollfarnau ‘heb ddarfod' fel y'u diffinnir gan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.
  8. Rydym yn sicrhau bod pawb yng Nghyngor Sir Penfro sy'n ymwneud â'r broses recriwtio wedi'u hyfforddi'n addas i nodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau. Rydym hefyd yn sicrhau eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a hyfforddiant priodol yn y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyflogi cyn-droseddwyr, e.e. Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, a deddfwriaeth berthnasol arall hefyd fel Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
  9. Mewn cyfweliad, neu mewn trafodaeth ar wahân, fe fyddwn yn sicrhau trafodaeth agored ac ystyriol ynglŷn â throseddau neu fater arall a allai fod yn berthnasol i'r swydd. Pe byddai'r ymgeisydd yn methu â datgelu gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r swydd y mae'n ymgeisio amdani, mae'n bosibl y bydd y cynnig gwaith yn cael ei dynnu'n ôl.
  10. Byddwn yn sicrhau bod pawb fydd yn destun gwiriad DBS yn ymwybodol o fodolaeth Cod Ymarfer, a bydd copi o hwn ar gael ar gais.
  11. Rydym yn ymgymryd i drafod unrhyw fater a ddatgelir mewn gwiriad DBS gyda'r sawl sy'n ymgeisio am y swydd cyn tynnu cynnig gwaith amodol yn ôl.

 

ID: 1883, adolygwyd 29/09/2022