Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor
Gwneud Cais am Swydd Wag
I ymgeisio am swydd gyda Chyngor Sir Penfro, bydd angen i chi ddefnyddio eich ffurflen gais ar-lein.
Mae'n system hawdd i'w ddefnyddio, a fydd yn eich arwain trwy'r broses ymgeisio gam wrth gam. Os ydych yn profi unrhyw anhawster, mae cymorth wrth law. Ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am y tîm recriwtio, neu fel arall, gallwch ein e-bostio ar recruit@pembrokeshire.gov.uk
Unwaith rydych wedi cyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn e-bost yn awtomatig i gadarnhau ein bod wedi ei dderbyn. Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i'ch hysbysu o ddatblygiad eich cais. Os gwahoddir chi am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost i gadarnhau'r trefniadau, a byddwn yn anelu at roi o leiaf 3 diwrnod o rybudd.
Noder nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs.
ID: 1878, adolygwyd 17/03/2023