Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor
Pensiwn a Buddion eraill
Mae ein gweithwyr yn elwa o raglen sefydlu gynhwysfawr, yn ogystal â system cymorth gwerthuso er mwyn adnabod a chyrraedd eu hanghenion hyfforddiant a datblygu esblygol. Mae gennym dîm mewnol ymroddgar sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu, wedi eu teilwra ar gyfer anghenion busnes.
Mae buddion eraill yn cynnwys:-
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cynllun pensiwn cyfrannol â buddion wedi'u diffinio)
- 26 diwrnod o wyliau â thâl bob blwyddyn - gan godi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser)
- Gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol a rhaglen cymorth i weithwyr (gwasanaeth cynghori cyfrinachol)
- Oriau gwaith hyblyg, pan fo hynny'n briodol
- Gweithio o adref (mewn rhai gwasanaethau)
- Gostyngiad ar aelodaeth o ganolfannau hamdden CSP
- Cynllun Seiclo i'r Gwaith (beiciau di-dreth ar gyfer gwaith)
- Gostyngiadau a hyrwyddiadau gan amrywiaeth o fân-werthwyr a darparwyr gwasanaethau.
ID: 1917, adolygwyd 11/06/2024