Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor
Polisi Recriwtio a Dethol
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod pwysigrwydd cael trefniadau agored, teg ac moesegol ar waith ar gyfer penodi ei weithwyr. Mae’r ddogfen hon yn nodi fframwaith polisi corfforaethol y Cyngor ar gyfer gweithgareddau recriwtio a dethol.
- Bydd pob penodiad gyda Chyngor Sir Penfro yn cael ei wneud ar sail teilyngdod, hynny yw, meini prawf ar gyfer dewis unigolion i’w cyflogi fydd eu gallu i gyflawni gofynion swyddi penodol fel y’u diffinnir gan ddisgrifiadau swydd a manylebau person.
- Bydd pob penodiad yn gyson â rhwymedigaethau’r Cyngor fel cyflogwr o dan ddeddfwriaeth gyfredol, ac yn enwedig Deddf Cydraddoldeb.
- Bydd pob ymarfer recriwtio yn cael ei gynnal yn unol â darpariaethau a safonau Polisi Recriwtio’r Cyngor.
- Bydd y Cyngor yn cymryd camau i sicrhau bod pob person sydd wedi’u hawdurdodi i gymryd rhan yn y broses o recriwtio a dethol pobl i weithio i’r Awdurdod yn derbyn hyfforddiant digonol ac addas i gyflawni eu cyfrifoldebau.
ID: 1880, adolygwyd 16/07/2025