Gweithio mewn Gofal Plant
Gweithio ym myd Gofal Plant
Ydych chi’n meddwl am yrfa ym myd gofal plant neu’n rhedeg eich sefydliad gofal plant eich hun?
Mae nifer o gyfleoedd ar gael i chi. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Benfro (FIS) fis@pembrokehsire.gov.uk neu ffoniwch: 01437 770014 a all eich rhoi ar ben ffordd a dweud wrthych ba ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn y cylch.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth di-dâl i ddarparwyr gofal plant yn Sir Benfro, gan gynnwys y canlynol:
- Hysbysebu eich gwasanaeth gofal plant i rieni am ddim
- Cynorthwyo sefydlu darpariaeth gofal plant newydd (e.e. gwarchod plant, meithrinfa, clwb ar ôl yr ysgol)
- Cymorth busnes gofal plant a grantiau dechrau busnes
- Cyfleoedd hyfforddi, cyllid a chyrsiau ar gyfer gweithwyr gofal plant.
Mae tîm o Weithwyr Datblygu yno hefyd i helpu darparwyr newydd gofal plant ddechrau eu busnesau’n gadar. Yn ogystal, maent yn cynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor parhaol i ddarparwyr presennol, helpu grwpiau ddatblygu eu darpariaeth, cynnig cymorth i hyrwyddo arferion da a chynorthwyo gydag unrhyw faterion AGC. Cysylltwch â FIS 01437 770014 i gael rhagor o fanylion.
Mae’r galw am staff gofal plant wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n debygol o gynyddu mwy o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o ofal plant a lleoedd addysg i blant ifanc.