Gweithio mewn Gofal Plant

Bod yn Weithiwr Chwarae

Beth yw diben y swydd?

Ar hyd a lled Cymru, sefydlwyd prosiectau chwarae i roi rhyddid i blant chwarae yn yr awyr agored mewn amgylchedd cyffrous a luniwyd i gynnig amrywiaeth eang o ddewis lle gall plant ddyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain.

Eich swyddogaeth chi fydd hwyluso chwarae plant, gan weithio gyda nhw i greu a rheoli amgylcheddau chwarae lle byddant, trwy eu harchwilio naturiol eu hunain, yn dysgu amdanynt eu hunain, ei gilydd a’r byd o’u cwmpas.

Fe allwch fod yn gweithio mewn clwb ar ôl ysgol, cynllun chwarae mynediad agored, darpariaeth chwarae symudol neu unrhyw fan lle gall plant fod yn chwarae.

Beth yw’r cyfleoedd i chi?

Erbyn hyn mae ‘chwarae’ yn gadarn ar yr agenda gwleidyddol, wrth i gymdeithas ddod yn fwy goleuedig ynghylch pwysigrwydd chwarae o ran helpu plant ifanc ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a dysgu.

Cyfyd swyddi gwag ar gyfer gweithwyr chwarae ledled Cymru, yn enwedig yn ystod cyfnodau gwyliau a dylai fod cyfle i symud ymlaen i swyddi gweithiwr chwarae uwch, ond i chi gael y cymwysterau gofynnol.

Pa gymwysterau fydd arnoch chi angen?

I fod yn weithiwr chwarae, bydd angen i chi fod wedi cyrraedd cymhwyster safon 2 neu 3 o leiaf mewn gwaith chwarae, bod yn gyfarwydd â deddfwriaeth gofal plant a bod â phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant.

Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd lle mae parch y naill at y llall yn hanfodol a lle bydd angen i chi gynnal plant yn emosiynol ac yn ymarferol. Bydd gweithwyr chwarae hefyd yn asesu a rheoli pob math o beryglon, ac yn cadw cyswllt â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill.

Bydd angen i chi fod yn barod ar gyfer her, gweithio ymhob tywydd a chynnig gofal ac ystyriaeth.

Rhagor o ffynonellau gwybodaeth:

Chwarae Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gyrfa Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Clybiau Plant Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) (yn agor mewn tab newydd)

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) (yn agor mewn tab newydd)

 

 

 

 

ID: 1785, adolygwyd 02/10/2023