Gweithio mewn Gofal Plant

Dod yn Warchodwr Plant

Os hoffech gael gyrfa werth chweil, rheoli eich hun a rhedeg eich busnes o’ch cartref eich hun, yna gallai gwarchod plant fod yn yrfa ddelfrydol i chi!

Fel gwarchodwr plant cofrestredig byddwch

  • Gallu gofalu am eich plant eich hun ar yr un pryd;
  • Cynnig amgylchedd cyffrous hapus i’r plant dan eich gofal;
  • Darparu cyfleoedd dysgu a gweld y plant yn datblygu;
  • Gweithio yn eich cartref a dewis eich oriau gweithio;
  • Cyfarfod gwarchodwyr plant eraill yn eich ardal a dod i adnabod eich cymuned leol;

Beth mae bod yn warchodwr plant cofrestredig yn ei olygu?

  • Byddwch yn gofalu am un neu fwy o blant dan 12 oed; am fwy na dwy awr y dydd; yn eich cartref eich hun; am dâl.
  • Byddwch yn cyrraedd y Safonau Cenedlaethol Gofynnol (NMS).
  • Byddwch wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac yn cael eich arolygu ganddi i sicrhau eich bod yn darparu amgylchedd diogel a chyffrous i’r plant dan eich gofal.
  • Byddwch yn hunangyflogedig ac yn rhedeg eich busnes eich hun

Pwysig: Mae’n anghyfreithlon gofalu am blant dan 12 oed yn eich cartref eich hun am fwy na dwy awr y dydd heb gofrestru

Sut mae dod yn warchodwr plant cofrestredig yn Sir Benfro? 

  • Cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth Deuluol Sir Benfro (FIS) ar 01437 770014 neu e-bostio fis@pembrokehire.gov.uk
  • Mynychu Sesiwn Gyfarwyddo Gwarchodwyr Plant

Bydd Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth Deuluol yn dweud wrthych pan fydd ‘Deall Sut i Sefydlu Gwasanaeth Gofal Plant Cartref’ yn cael ei gynnal.

  • Caiff y cwrs CYPOP 5 ei gyflwyno dros 8 wythnos gan Goleg Sir Benfro
  • Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cwrs, y cam nesaf yw mynychu sesiynau mentora er mwyn cwblhau pecyn cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Bydd gofyn i chi fynychu Cymorth Cyntaf Pediatregol cyn cwblhau’r cofrestru
  • Gofyn i AGGCC am ffurflen y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar eich cyfer chi a phawb dros 16 oed ar yr aelwyd
  • Cyflwyno eich cais i AGC
  • Bydd AGC yn trefnu i arolygydd ddod i ymweld â chi yn eich cartref

I gael manylion y sesiynau cyfarwyddo a chyrsiau nesaf, cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth Deuluol Sir Benfro (FIS)

Ffôn: 01437 770014

E-bost: fis@pembrokeshire.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn warchodwr plant cofrestredig:

PACEY (yn agor mewn tab newydd)

Arolygiaeth Gofal Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 1784, adolygwyd 02/10/2023