Gweithio mewn Gofal Plant
Gweithio mewn Clwb y Tu Allan i Oriau Ysgol
Beth yw diben y swydd?
Mae clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast a chlybiau gwyliau yn cynnig gofal a lle chwarae i blant rhwng 3 - 14 oed. Lleolir nifer o glybiau yn yr ysgol leol, tra lleolir eraill mewn neuaddau pentref, canolfannau cymunedol neu feithrinfeydd dydd.
Yn weithiwr chwarae yn un o'r clybiau hyn, byddwch yn gweithio'n rhan o dîm yn creu lleoedd y gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau gwreiddiol a diddorol. Gallwch fod yn gwneud unrhyw beth o ymuno â'u gemau i'w helpu â'u gwaith cartref, goruchwylio a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft, gemau a chwarae corfforol neu hebrwng y plant i'r ysgol ac oddi yno.
Bydd gan lawer o'r clybiau blant o bob oed, a golyga hyn y bydd angen i chi fod yn hen law ar fodloni ystod eang o anghenion. Rôl y gweithiwr chwarae yw sicrhau bod gan blant a phobl ifanc y cyfle i chwarae ac i gymdeithasu drwy ddewis gweithgareddau cyffrous ar eu cyfer mewn amgylchedd diogel a gofalgar.
Beth yw'r cyfleoedd i chi?
Nod trefnydd y clwb yw creu lle tawel ac anffurfiol lle gall y plant ‘ymlacio' ar ôl ysgol a chael cyfle i chwarae a bod yng nghwmni eu cyfoedion.
Gall helpu i greu amgylchedd tawel a chroesawgar a chwarae rhan wrth ddarparu clwb llawn hwyl, diogel a chyfeillgar fod yn foddhaol iawn.
Pa gymwysterau y bydd eu hangen arnoch?
Y gymhareb staffio isafswm yw 1:8 o blant mewn clwb y tu allan i'r ysgol, ac mae'n rhaid i'r staff feddu ar lefel 2 o leiaf o restr bresennol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru neu Fframwaith Cymhwyster Integredig Skills Active ar gyfer Gwaith Chwarae.
Yn hyfforddai, byddwch yn dechrau yn gweithio mewn rôl oruchwyliol yn Gynorthwyydd Gweithiwr Chwarae a byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 mewn Gwaith Chwarae. Yna, gallwch ddatblygu i swydd rheoli neu oruchwyliwr gyda chymhwyster lefel 3. Gallwch hefyd ddewis astudio am radd mewn Gwaith Chwarae neu Waith Ieuenctid.
Mae'n rhaid i unrhyw glwb y tu allan i oriau ysgol sy'n gofalu am blant o dan 8 oed am dros ddwy awr y diwrnod gofrestru â'r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Nid oes angen i glybiau a chanddynt blant rhwng 8 a 14 oed gofrestru â'r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Ffynonellau i gael rhagor o wybodaeth:
Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (yn agor mewn tab newydd)
Chwarae Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) (yn agor mewn tab newydd)
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) (yn agor mewn tab newydd)