Gweithio mewn Gofal Plant
Gweithio mewn Meithrinfa Dydd
Gall gweithio mewn meithrinfa fod yn swydd foddhaol iawn. Bydd arnoch angen egni di-ben-draw a gwir empathi i anghenion y plant. Os oes gennych y priodoleddau hynny, mae'r gwobrwyon yn helaeth wrth i chi dywys y plant yn eich gofal drwy un o gyfnodau pwysicaf eu datblygiad.
Bydd eich rôl yn amrywio gan ddibynnu ar oedran y plant yn eich gofal. Mae llawer o'r gwaith wrth ofalu am fabis yn ofal corfforol gan sicrhau y cânt eu bwydo, eu newid, eu cadw'n gynnes, yn hapus, yn fodlon ac wedi'u hysgogi. Gallwch hefyd hyfforddi i arbenigo mewn gofalu am fabis.
Wrth warchod plant bach a phlant hŷn, bydd eich gwaith yn canolbwyntio'n fwy ar ddatblygu sgiliau iaith a'i hannog i ymchwilio'r byd drwy chwarae. Byddwch yn helpu i drefnu gweithgareddau hwyliog sy'n galluogi plant i arbrofi a dysgu, a fydd yn ysgogi eu dychymyg a'u cyfarparu â'r sgiliau sylfaenol i'w paratoi at yr ysgol.
Wrth i chi ddatblygu, gallech ddod yn ymarferydd Meithrinfa â chyfrifoldeb am gynllunio, ac yn y pendraw symud ymlaen i reoli, goruchwylio'r cyllid, cysylltu â'r rhieni a recriwtio.
Beth yw'r cyfleoedd i chi?
Mae meithrinfeydd yn darparu gofal, addysg a chwarae llawn neu ran amser i blant hyd at 5 mlwydd oed, fel arfer rhwng 8am a 6pm.
Gallai gweithio mewn meithrinfa ddyfod â sawl cyfle i chi - os ydych yn chwilio am gyflogaeth rhan amser neu yrfa llawn amser - a chyda rhagor o brofiad a chymwysterau gallwch symud ymlaen i swyddi goruchwylio a rheoli.
Pa gymwysterau y bydd eu hangen arnoch?
Mae'n rhaid i o leiaf 80% o'r staff nad ydynt yn goruchwylio gael cymhwyster lefel 2 o leiaf o restr presennol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru, gydag o leiaf hanner o'r rhain â chymhwyster lefel 3 neu'n gweithio tuag ato. Er mwyn datblygu i swydd rheolwr, mae'n rhaid bod gennych gymhwyster lefel 3 o restr presennol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru ac o leiaf 2 flynedd o brofiad.
Efallai y bydd meithrinfeydd yn fodlon cyflogi Cynorthwywyr Meithrinfa heb gymwysterau, fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn disgwyl ymrwymiad gennych i hyfforddi i gymhwyster lefel 2 unwaith y byddant yn eich cyflogi.
Ffynonellau i gael rhagor o wybodaeth:
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC)(yn agor mewn tab newydd)
Gyrfa Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)
Coleg Sir Gâr (yn agor mewn tab newydd)
Coleg Ceredigion (yn agor mewn tab newydd)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (yn agor mewn tab newydd)
Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan Byd Gwaith (yn agor mewn tab newydd)