Gweithio mewn Gofal Plant

Gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Mae pob math o bobl yn gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae. Mae ar blant angen amrywiaeth o batrymau ymddwyn cadarnhaol a dylanwadau da. Mae ymadawyr ysgol a myfyrwyr, oedolion o bob oed, pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig, dynion a merched – gyda neu heb brofiad blaenorol – i gyd yn chwarae rhan bwysig. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu hamynedd, brwdfrydedd ac ymroddiad a dealltwriaeth bod eu gwaith yn waith i’w gymryd o ddifrif.

Beth yw’r dewisiadau?

Gwarchodwyr Plant Cofrestredig 

Yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, yn darparu gofal a chyfleoedd dysgu i blant. Fe all FIS fis@pembrokeshire.gov.uk ffôn 01437 770014 anfon Pecyn Gwybodaeth am Warchod Plant atoch, ynghyd â manylion y cymorth a gewch. Bydd hyn yn cynnwys manylion y Cwrs Gwarchod Plant, y Sesiynau Cyfarwyddo sy’n rhoi gwybodaeth i chi am y broses gofrestru a’r Pecyn Dechrau. Bydd hyn yn cynnwys aelodaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus PACEY Cymru, yn ogystal â chymorth tuag at hyfforddiant ac offer i chi gael ddechrau arni.

Cylchoedd Meithrin

Ar agor ar ddyddiau gwaith drwy gydol y flwyddyn ac, felly, mae llawer o gyfleoedd i chi weithio rhan-amser neu yn ystod y tymor i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill. Gyda mwy o brofiad, gallwch symud i swyddogaeth oruchwylio neu reoli. Mae dewis helaeth o hyfforddiant a chymwysterau ar gael i chi.

Erioed wedi meddwl am agor eich meithrinfa eich hun? Fe all Chwarae Teg (yn agor mewn tab newydd) eich cynghori ynghylch cyllid a hyfforddiant. Gallant helpu i chi ddatblygu cynllun gweithredu a rhoi cyfarwyddyd ar gydbwyso bywyd a gwaith, cynorthwyo gyda chostau gofal a darparu trafodaethau un-i-un a chyrsiau di-dâl. Mae modd cael cymorth ac arweiniad hefyd gan NDNA (yn agor mewn tab newydd) (Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd), a Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Yn gweithio mewn, neu’n sefydlu cylch chwarae neu Grŵp Rhieni a Phlantos Bach

Blynyddoedd Cynnar Cymru (yn agor mewn tab newydd) a Mudiad Meithrin (yn agor mewn tab newydd) gynnig amrywiaeth o gyrsiau, gwybodaeth a chyngor i bawb sy’n meddwl am weithio neu sefydlu Cylch Chwarae neu Grŵp Rhieni a Phlantos.

Yn gweithio mewn, neu’n sefydlu Clwb Oddi Allan i’r Ysgol

Mae’r clybiau hyn yn darparu hwyl mewn amgylchedd diogel, hapus yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. Mae Clybiau Plant Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn helpu sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant oddi allan i’r ysgol.

Yn gweithio fel Mamaeth

Mae’r Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cartref yn gynllun gwirfoddol ar gyfer gofalwyr nad oes angen cofrestru gan AGC (yn agor mewn tab newydd) i ganiatáu i unigolion weithio yng nghartref y rhieni’n gofalu am eu plant. Ei nodau yw codi safon gofal yn y cartref a chaniatáu i fwy o rieni gael cymorth ariannol.

ID: 1782, adolygwyd 02/10/2023