Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol

Croeso

Os ydych eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl trwy ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, yna nid oes angen i chi edrych ymhellach na Chyngor Sir Penfro. Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus ar draws ein timau gwasanaethau oedolion a phlant ac wedi meithrin diwylliant o werthfawrogiad a bod yn agored i newid meddwl a thrawsnewid arferion.

Mewn sawl ffordd, rydym yn gosod safonau newydd, ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni amgylchedd gwaith amrywiol a deinamig. Rydym yn falch o fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd â statws cyflogwr hyderus o ran anabledd.

Bydd y gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol bob amser yn heriol, ond mae ein hagwedd ‘gallu gwneud’ yn yr awdurdod yn ein helpu i feddwl a gweithredu'n wahanol am y ffordd orau i ni wneud yr hyn sy'n bwysig i blant ac oedolion ar draws y sir. Gan groesawu gwaith digidol, a gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr ym maes iechyd a’r sector gwirfoddol a chymunedol, rydym wedi ymrwymo i harneisio adnoddau a rennir i ddarparu’r gorau a allwn i bobl Sir Benfro.

Ymunais â Sir Benfro oherwydd fy mod yn llawn cyffro i adeiladu ar y gwaith arloesol a oedd eisoes yn digwydd. Gyda theulu ifanc, cefais fy ysgogi hefyd gan y posibilrwydd o fyw a gweithio mewn sir mor unigryw a hardd.

Os ydych eisiau gwybod mwy am ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa gofal cymdeithasol yn Sir Benfro, cysylltwch â ni am sgwrs.

Michael Gray, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Michael Gray Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

ID: 7474, adolygwyd 04/04/2023