Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol

Profiad gwaith a phrentisiaethau mewn gofal cymdeithasol i oedolion

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol i oedolion? Efallai yr hoffech chi ystyried profiad gwaith gyda ni a allai fod yn garreg filltir tuag at brentisiaeth a gyrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol.

Mae ein gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol ar draws Sir Benfro yn cynnwys gwasanaethau gofal cartref ac ailalluogi cymunedol, canolfannau dydd, cartrefi preswyl a gwasanaethau offer cymunedol. Cewch gyfle i weithio mewn lleoliadau amrywiol, gan ennill profiad gwerthfawr.

Byddwn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am bob lleoliad gwaith, beth mae'n ei wneud, pwy sy'n ei ddefnyddio, pwy sy'n gweithio yno a ble mae e. Byddwn hefyd yn ceisio paru eich lleoliad â'ch ardal leol a phryd rydych ar gael.

 diddordeb?  I ddysgu mwy, cysylltwch â Sara ar sara.colwill@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 776571.

ID: 12187, adolygwyd 19/11/2024

Gweithio i'r Gwasanaethau Plant

Mae gweithio yn y Gwasanaeth Plant yn Sir Benfro'n golygu gweithio mewn gwasanaeth sydd â’r gwerth allweddol o barch fel llinyn aur drwy ei holl arferion. Ym mhopeth a wnawn gyda phlant a theuluoedd, rydym yn ceisio dangos parch drwy wrando, ymgynghori, cynnwys ac esbonio.

Rydym yn adran sy'n achub ar gyfleoedd i ddysgu a gwella sut rydym yn cyflawni'n gwasanaethau, fel ein bod yn ceisio ein gorau glas i wneud y gorau i blant a theuluoedd. Ein nod yw bod yn adran sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac atebion, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi a bod plant yn cael eu hamddiffyn. Mae ein staff yn gweithio i feithrin cydberthnasau gyda theuluoedd a phlant oherwydd ein bod yn cydnabod mai dyma'r ffordd orau o gyflawni gofal cymdeithasol da: drwy roi'r unigolyn fel canolbwynt. Ac, i'r perwyl hwn, rydym yn gweithredu'r dull Arwyddion Diogelwch ar draws ein holl weithrediadau. Mae gennym gydberthnasau cryf ac effeithiol ag asiantaethau eraill, sy'n ein caniatáu i weithio ar y cyd er budd pobl Sir Benfro. Ac mae ein cydberthnasau mewnol yn golygu bod gennym ddull blaengar ar gyfer rhianta corfforaethol.

Bydd gweithio i Sir Benfro yn golygu y bydd gennych fynediad i adnoddau hyfforddiant hunangyfeiriedig ac a gyflwynir yn uniongyrchol, ynghyd â system sefydledig ar gyfer datblygu ein staff anghymwys yn y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Mae ein tîm uwch-reolwyr yn weladwy, yn flaengar ac yn hygyrch a byddwch yn cael cymorth gan reolwr profiadol.

Mae Sir Benfro'n sir y mae ganddi lawer i fod yn falch ohono a nod yr adran Gwasanaethau Plant yw bod yn adran y mae eraill yn troi ati am esiampl ac ysbrydoliaeth.

Ymunwch â ni a bod yn falch o'ch cyflogwr.

Darren Mutter, Pennaeth y Gwasanaethau Plant

 

Tony Mezzetta, Rheolwr Gwasanaethau mewn Gwasanaethau Plant Sir Benfro

ID: 7655, adolygwyd 23/03/2023

Gweithio i'r Gwasanaethau Oedolion

Bydd gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn Sir Benfro yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu a thyfu fel gweithiwr proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol, blaengar a chreadigol. Gydag amrywiaeth eang o rolau a chyfleoedd sy'n cynnig datblygiad gyrfa, gallwch ymuno â thîm sy'n gofalu am ei staff ac sy'n falch o wasanaethu pobl Sir Benfro hyd eithaf ein galluoedd.

Thema allweddol ein holl waith yw ystyried cryfderau pobl a gwerthfawrogi'r bobl rydych yn gweithio gyda hwy a'r bobl hynny rydym yn darparu gwasanaethau iddynt. Rydym yn adran sy'n achub ar gyfleoedd i ddysgu a gwella sut rydym yn cyflawni'n gwasanaethau, fel ein bod yn ceisio ein gorau glas i wneud y gorau i'n cymuned.

Ein nod yw bod yn adran sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac atebion, gyda phwyslais cryf ar gymuned a chreu cysylltiadau i bawb. Rydym yn gweithredu'r dull Arwyddion Diogelwch ar draws ein gwasanaethau er mwyn canolbwyntio ar gryfderau, sicrhau diogelwch, a sicrhau ein bod yn clywed llais yr unigolyn. Mae gennym gydberthnasau cryf ac effeithiol ag asiantaethau eraill, sy'n ein caniatáu i weithio ar y cyd er budd pobl Sir Benfro.

Bydd gweithio i Sir Benfro'n golygu y bydd gennych fynediad i adnoddau hyfforddiant hunangyfeiriedig ac a gyflwynir yn uniongyrchol, ynghyd â system sefydledig ar gyfer datblygiad gyrfa, sy'n gallu cynnwys cyllid ymgymryd â hyfforddiant gwaith cymdeithasol, hyfforddiant rheoli ac amrywiaeth o weithgareddau eraill. Mae ein tîm uwch-reolwyr yn weladwy, yn flaengar ac yn hygyrch a byddwch yn cael cymorth gan reolwr profiadol.

Mae Sir Benfro'n sir y mae ganddi lawer i fod yn falch ohono a nod yr adran Gwasanaethau Oedolion yw bod yn adran y mae eraill yn troi ati am esiampl ac ysbrydoliaeth.

Os ydych am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, beth am ymuno â ni a bod yn falch ohonoch chi'ch hun, yr hyn rydych yn ei wneud, a'ch cyflogwr.

Paul Regimbal, Uwch-Weithiwr Cymdeithasol - Tîm o Amgylch y Teulu

ID: 7660, adolygwyd 23/03/2023

Pam ein dewis ni?

Mae Sir Benfro yn sir unigryw a phrydferth sydd wedi’i lleoli ar arfordir de orllewin Cymru. Heblaw am y 124,000 o bobl sy’n byw ac yn gweithio yma rydym hefyd yn croesawu oddeutu 2.3 miliwn o ymwelwyr sy’n aros bob blwyddyn. Yma yng Nghyngor Sir Penfro rydym yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da a dwyn gwerth i’n cwsmeriaid.

Mae mwy i Sir Benfro na’r golygfeydd syfrdanol a’r llwybr arfordirol byd-enwog: mae gennym sîn gerddorol a chelfyddydol fywiog, digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr a’r tir, efallai archwilio pentrefi cyfareddol a threfi diddorol neu ddarganfod hanes a diwylliant rhyfeddol yr ardal.

Ein nod yw sicrhau bod Sir Benfro yn llewyrchus a’i bod yn dal i fod yn ffyniannus ac yn arbennig.

Mae ein timau'n canolbwyntio ar geisio gwelliant parhaus yn ansawdd y gofal a’r cymorth ac ar amddiffyn y plant, pobl ifanc ac oedolion mwyaf agored i niwed yn ein sir ac rydym yn falch o’n cyflawniadau.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi a’u datblygu’n llawn i gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gyflawni’r deilliannau gorau ar gyfer y rhai yn ein gofal.

Cawn ein harwain yn ein gwaith gan ddeddfwriaeth ar lefel y DU a Chymru, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. 

Mae ein tîm rheoli cefnogol wedi ymrwymo i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae  ein dull sy'n seiliedig ar gryfderau, at Oruchwyliaeth Werthfawrogol, sy'n eich rhoi wrth wraidd eich goruchwyliaeth, wedi cael ei chanmol gan BASW.  Mae'r strwythur gweithio cefnogol hwn yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i berfformio hyd eithaf eich gallu, tra'n gwneud swydd rydych chi'n ei charu.

Mae ein pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, felly, rydym am i chi gael mynediad at y cyfleoedd datblygu gorau.  Gweler ein hadran Dysgu a Datblygu am fwy o fanylion.  

Gyda'n gilydd, rydym yn ymrwymedig i ddarganfod ffyrdd newydd ac arloesol o drawsnewid ymarfer ac rydym yn falch ein bod ni wedi derbyn nifer o wobrau cenedlaethol

Rhesymau dros ymuno â ni:

  • Gall eich cymudiad beunyddiol ddod yn bleser gyda ffyrdd tawel, profiad gyrru golygfaol ac ychydig iawn o dagfeydd traffig
  • Cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith – beth am ymweld â’r traeth ar eich ffordd adref?
  • Mae tai’n dal i fod yn weddol fforddiadwy
  • Mae gennym gysylltedd gwych
  • Un o’r cyfraddau troseddu isaf yn y DU – rydym yn cael ein cydnabod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio
  • Mae gennym ysgolion Cymraeg a Saesneg a Choleg Addysg Bellach

Mae hyn oll ynghyd â gweithio hyblyg, gwyliau a buddion hael (gan gynnwys darpariaeth adleoli) yn helpu i greu pecyn cyflawn.

O gynlluniau sefydlu cynhwysfawr, strategaethau hyfforddi a choetsio ystyriol i drefniadau gweithio hyblyg a chydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, lle mae gofalu am ein cyflogeion yn y cwestiwn rydym yn falch o’r hyn y gallwn ni ei gynnig:

  • Pecyn adleoli hael hyd at £8,000 ar gyfer rolau sy'n gymwys.
  • Tîm rheoli cefnogol a llwythi achosion ymarferol.
  • Gweithio hyblyg.
  • Aelodaeth o’r cynllun pensiwn buddion diffiniedig ‘cyfartaledd gyrfa’ Llywodraeth Leol.
  • Gwyliau blynyddol hael hyd at 31 diwrnod.
  • Ffyrdd newydd arloesol o weithio sy’n helpu i drefnu a dylanwadu ar ymarfer o fewn y gweithlu.
  • Cyfleoedd hyblyg ar gyfer datblygiad gyrfa.
  • Ystod eang o adnoddau iechyd a lles, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol proffesiynol a mynediad at wasanaethau cwnsela.
  • Cynllun tâl mamolaeth galwedigaethol hael, ar ben buddion statudol.
  • Cyfle i ddysgu Cymraeg
  • Polisïau eraill sy’n ystyriol o deuluoedd gan gynnwys:
    • Cynllun beicio i’r gwaith
    • Cynllun prydlesu ceir
    • Ystod o ddisgowntiau gan fanwerthwyr a chyflenwyr lleol

Rydym yn deall nad yw llwybrau gyrfaol wastad yn siwrneiau llinol, a dyna pam y gwnawn ni ein gorau i ddarparu cyfleoedd gwaith amrywiol a’ch cefnogi wrth i chi symud rhwng rolau ac ar draws timau i ganlyn eich diddordebau.

Mae ein gwaith yn newid bywydau. Os ydych chi’n rhannu ein hangerdd tuag at wneud gwahaniaeth i oedolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd, bwriwch olwg ar ein Swyddi Gofal Cymdeithasol gwag. Byddwn wrth ein bodd os byddwch yn ymuno â ni.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost.

ID: 7558, adolygwyd 15/11/2024

Harfer Da a Cyflawniadau

Bydd gwaith cymdeithasol wastad yn her, ond mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl yr ydym yn eu cefnogi, ac rydym yn falch o’n cyflawniadau. Mae ein huwch dîm rheoli’n creu diwylliant o werthfawrogi a bod yn agored i newid ffyrdd o feddwl a thrawsnewid ymarfer. Rydym yn gosod y safon fel arweinwyr o ran rhoi’r model Arwyddion Diogelwch ar waith ar draws gwasanaethau Oedolion a Phlant, ac rydym wedi ennill sawl gwobr genedlaethol glodfawr sy’n dathlu ymarfer arloesol mewn categorïau megis ‘Gwaith Tîm Rhagorol’ a ‘Cyflogwr Ysbrydoledig’ am fentrau sy’n cynnwys ein dull newydd seiliedig-ar-gryfderau o gynnal Goruchwyliaeth WerthfawrogolTrwy barhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o wella ein hymarfer mae gennym y pŵer i newid bywydau. Mae arnom angen pobl â’r angerdd a’r gallu i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd – dyna pam fod arnom angen pobl fel chi. 

 

ID: 7565, adolygwyd 25/11/2024

Dysgu a Datblygu

Mae ein pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Heb ein pobl, ni fyddai cynnydd yn bosibl, a dyna pam mae'n bwysig i ni fuddsoddi yn eich dyfodol. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennych fynediad i'r cyfleoedd gorau o ran cymorth a datblygiad, dan ddarparu'r offer, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnoch ar eich llwybr dewisedig.

Deallwn fod goruchwyliaeth dda yn hanfodol er mwyn eich ymarfer effeithiol, eich datblygiad personol a'ch lles. Mae BASW Cymru wedi canmol ein dull, sy'n seiliedig ar gryfderau, at Oruchwyliaeth Werthfawrogol am ymarfer arloesol ac mae’n eich rhoi wrth wraidd eich goruchwyliaeth fel eich bod yn teimlo'n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn cael eich gwerthfawrogi.

Byddwn yn cefnogi eich Hyfforddiant a Datblygiad Ôl-gofrestru gydag amrediad eang o hyfforddiant, dysgu a chefnogaeth, gan gynnwys y Rhaglen Ymarferwr Iechyd Meddwl Cymeradwyy Wobr Addysgwr Ymarfer, hyfforddiant arbenigol un i un ac mewn grŵp, rhaglenni hyfforddi a mentora a rhaglenni arwain a rheoli.

Ac, os ydych yn angerddol am gefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol, ceir cyfleoedd i gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn ystod eu lleoliadau arferion, neu i fentora gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn ystod blwyddyn gyntaf eu hymarfer. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cyfleoedd dysgu a datblygu rydym yn gallu cynnig.   

Cyfnod sefydlu

Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd cyfnod sefydlu da ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth gefnogi'r aelodau newydd yn ein tîm. Mae gan ein proses groeso gynhwysfawr ar gyfer gweithwyr Gwasanaethau Cymdeithasol dri cham i sicrhau eich bod yn cael croeso cynnes gyda phrofiad sefydlu strwythuredig wedi'i gynllunio'n ofalus sy'n ymateb i'ch anghenion unigol fel eich bod yn teimlo'n hyderus ac yn cael eich gwerthfawrogi yn eich rôl newydd.

Hyfforddiant a Datblygiad Ôl-gofrestru

Rydym yn cynnig ystod eang o dysgu a datblygu, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol un i un a mewn grŵp. Mae ceisiadau am hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd cymwysterau yn cael eu hystyried a'u dyfarnu trwy ein panel cymwysterau, sy'n broses deg a thryloyw a ddyluniwyd i hyrwyddo cydraddoldeb, annog pobl i barhau â'u datblygiad personol a phroffesiynol a chydnabod a datblygu talent.

Cymorth i Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso

Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yn elwa o fodel cynhwysfawr o gymorth yn eich tair blynedd gyntaf mewn ymarfer proffesiynol. Mae ein Fframwaith Tair Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer yn cynnwys cyfnod sefydlu pwrpasol, goruchwylio o safon uchel, mentora effeithiol a chyfle i ddatblygiad proffesiynol parhaus i'ch helpu i dyfu yn ymarferydd hyderus a chymwys.

Mentora gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso

Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol profiadol gyda'r awydd i ddatblygu'ch ymarfer ac atgyfnerthu'ch gwybodaeth mewn rôl gwerthfawr? Rydym yn cynnig cyfle i Weithwyr Cymdeithasol profiadol ymgymryd â rôl fentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, gyda hyfforddiant sgiliau mentora mewnol pwrpasol a chefnogaeth grŵp cymheiriaid rheolaidd.

Addysgwr Ymarfer - Hyfforddi'r genhedlaeth nesaf

Un elfen o'n gwaith yw gofal cymdeithasol rheng flaen. Rydym hefyd wedi ymrwymo i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol. Mewn partneriaeth â'r prifysgolion gorau, rydym yn darparu nifer o leoliadau gwaith i fyfyrwyr mewn ystod amrywiol o leoliadau ar draws Gwasanaethau Oedolion a Phlant bob blwyddyn.

Mae addysgwyr ymarfer yn darparu'r sylfeini a'r profiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddod yn weithwyr cymdeithasol effeithiol a hyderus.  Mae'n hynod fuddiol i’n haddysgwyr ymarfer hefyd, gan eu helpu i fyfyrio ar eu dulliau a'u ffyrdd eu hunain o weithio a’u mireinio.

Gall gweithwyr cymdeithasol sydd â 3 blynedd neu fwy o brofiad ôl-gymhwyso wneud cais i astudio ar gyfer Gwobr Addysgwr Ymarfer, a chychwyn ar y daith tuag at lunio gweithwyr cymdeithasol y dyfodol.

Rhaglen Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)

Mae angen i Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHPs) feddwl ar eu traed ac aros yn ddigynnwrf a phwyllog wrth weithio gyda phobl sydd mewn trallod meddwl acíwt ar adeg o argyfwng.  Rydym yn gallu cynnig cyfle i'n gweithwyr cymdeithasol sy'n meddu ar y priodoleddau hyn i wneud cais am gyllid a chymorth i astudio ar gyfer tystysgrif ôl-raddedig Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am rôl Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy.

Rhaglenni Rheoli ac Arwain

Rydym yn annog ein darpar arweinwyr i ddatblygu sgiliau rheoli ac arwain. Mae ein rhaglenni'n cynnwys y Fframwaith Datblygu Arweinyddiaeth a Rheoli Corfforaethol, y Rhaglen Datblygu Rheolwyr Canol a'r Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm.

Y Gymraeg

Mae nifer o ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sy'n awyddus i ddysgu iaith newydd.

Eich Iechyd a'ch Lles

Er ein bod yn disgwyl ichi wneud y gorau dros y bobl sydd yn eich gofal, rydym yn deall pa mor heriol y gallai gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol fod. Oherwydd hyn, rydym yn cynnig ystod eang o hyfforddiant ac adnoddau un i un ac ar-lein i gefnogi eich iechyd a'ch lles, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol proffesiynol a mynediad at wasanaethau cwnsela. Yn ogystal â hyn, rydym yn chwilio'n barhaus am fentrau iechyd a lles newydd i sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a'ch bod yn derbyn gofal yn eich rôl fel gweithiwr cymdeithasol.

Ac yn olaf…

Rydym yn deall nad yw llwybrau gyrfa bob amser yn siwrnai syml, ac felly byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu cyfleoedd gwaith amrywiol a'ch cefnogi chi i symud rhwng rolau ac ar draws timau i ddilyn eich diddordebau.

Mae ein gwaith yn newid bywydau. Os ydych chi'n rhannu ein hangerdd dros wneud gwahaniaeth ym mywydau oedolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd, edrychwch ar ein swyddi Gofal Cymdeithasol gwag. Byddwn wrth ein boddau pe byddech chi'n ymuno â ni. 

ID: 7489, adolygwyd 20/11/2024

Cwrdd â'n Timau

Mae ein huwch dîm rheoli cefnogol wedi ymrwymo i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw gyda pholisi drws agored. Parch yw un o'm prif werthoedd, croesawn syniadau newydd ac rydym yn annog her i wella'n meddyliadau a’n hymarferion yn barhaus.

Mae Sir Benfro yn sir fawr, wledig yn bennaf ac mae gennym amrediad eang o dimau arbenigol sy'n barod i ymateb i'r holl heriau amrywiol a ddaw yn eu sgil. Gyda strwythur gwaith cefnogol a chefnogaeth rheolwr profiadol, rydym am sicrhau bod gennych y cyfan sydd ei angen arnoch i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol a pherfformio hyd y gorau o’ch gallu wrth weithio mewn swydd rydych yn ei charu mewn amgylchedd blaengar a chreadigol.

Mae gennym gydberthnasau cryf ac effeithiol ag asiantaethau eraill, sy'n ein caniatáu i weithio ar y cyd er budd pobl Sir Benfro. Ac mae gennym gydberthnasau gweithio arbennig rhwng ein timau hefyd, i sicrhau y ceir gwaith effeithiol a chydlynol.

Ceir ystod amrywiol iawn o bobl yn ein timau gwaith cymdeithasol, ac mae'r uchelgais a'r ymdrech a rennir i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ein cymuned yn ein huno ni i gyd.  P'un a ydych wedi cael eich geni a’ch magu yn Sir Benfro, yn ymwelydd tymhorol neu'n hollol newydd i'n sir arbennig, cewch groeso cynnes.

Gweithio i'r Gwasanaethau Plant

Gweithio i'r Gwasanaethau Oedlion

ID: 7477, adolygwyd 23/03/2023

Croeso

Os ydych eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl trwy ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, yna nid oes angen i chi edrych ymhellach na Chyngor Sir Penfro. Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus ar draws ein timau gwasanaethau oedolion a phlant ac wedi meithrin diwylliant o werthfawrogiad a bod yn agored i newid meddwl a thrawsnewid arferion.

Mewn sawl ffordd, rydym yn gosod safonau newydd, ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni amgylchedd gwaith amrywiol a deinamig. Rydym yn falch o fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd â statws cyflogwr hyderus o ran anabledd.

Bydd y gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol bob amser yn heriol, ond mae ein hagwedd ‘gallu gwneud’ yn yr awdurdod yn ein helpu i feddwl a gweithredu'n wahanol am y ffordd orau i ni wneud yr hyn sy'n bwysig i blant ac oedolion ar draws y sir. Gan groesawu gwaith digidol, a gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr ym maes iechyd a’r sector gwirfoddol a chymunedol, rydym wedi ymrwymo i harneisio adnoddau a rennir i ddarparu’r gorau a allwn i bobl Sir Benfro.

Ymunais â Sir Benfro oherwydd fy mod yn llawn cyffro i adeiladu ar y gwaith arloesol a oedd eisoes yn digwydd. Gyda theulu ifanc, cefais fy ysgogi hefyd gan y posibilrwydd o fyw a gweithio mewn sir mor unigryw a hardd.

Os ydych eisiau gwybod mwy am ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa gofal cymdeithasol yn Sir Benfro, cysylltwch â ni am sgwrs.

Michael Gray, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Michael Gray Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

ID: 7474, adolygwyd 04/04/2023