Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol
Cwrdd â'n Timau
Mae ein huwch dîm rheoli cefnogol wedi ymrwymo i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw gyda pholisi drws agored. Parch yw un o'm prif werthoedd, croesawn syniadau newydd ac rydym yn annog her i wella'n meddyliadau a’n hymarferion yn barhaus.
Mae Sir Benfro yn sir fawr, wledig yn bennaf ac mae gennym amrediad eang o dimau arbenigol sy'n barod i ymateb i'r holl heriau amrywiol a ddaw yn eu sgil. Gyda strwythur gwaith cefnogol a chefnogaeth rheolwr profiadol, rydym am sicrhau bod gennych y cyfan sydd ei angen arnoch i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol a pherfformio hyd y gorau o’ch gallu wrth weithio mewn swydd rydych yn ei charu mewn amgylchedd blaengar a chreadigol.
Mae gennym gydberthnasau cryf ac effeithiol ag asiantaethau eraill, sy'n ein caniatáu i weithio ar y cyd er budd pobl Sir Benfro. Ac mae gennym gydberthnasau gweithio arbennig rhwng ein timau hefyd, i sicrhau y ceir gwaith effeithiol a chydlynol.
Ceir ystod amrywiol iawn o bobl yn ein timau gwaith cymdeithasol, ac mae'r uchelgais a'r ymdrech a rennir i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ein cymuned yn ein huno ni i gyd. P'un a ydych wedi cael eich geni a’ch magu yn Sir Benfro, yn ymwelydd tymhorol neu'n hollol newydd i'n sir arbennig, cewch groeso cynnes.