Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol
Gweithio i'r Gwasanaethau Oedolion
Bydd gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn Sir Benfro yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu a thyfu fel gweithiwr proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol, blaengar a chreadigol. Gydag amrywiaeth eang o rolau a chyfleoedd sy'n cynnig datblygiad gyrfa, gallwch ymuno â thîm sy'n gofalu am ei staff ac sy'n falch o wasanaethu pobl Sir Benfro hyd eithaf ein galluoedd.
Thema allweddol ein holl waith yw ystyried cryfderau pobl a gwerthfawrogi'r bobl rydych yn gweithio gyda hwy a'r bobl hynny rydym yn darparu gwasanaethau iddynt. Rydym yn adran sy'n achub ar gyfleoedd i ddysgu a gwella sut rydym yn cyflawni'n gwasanaethau, fel ein bod yn ceisio ein gorau glas i wneud y gorau i'n cymuned.
Ein nod yw bod yn adran sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac atebion, gyda phwyslais cryf ar gymuned a chreu cysylltiadau i bawb. Rydym yn gweithredu'r dull Arwyddion Diogelwch ar draws ein gwasanaethau er mwyn canolbwyntio ar gryfderau, sicrhau diogelwch, a sicrhau ein bod yn clywed llais yr unigolyn. Mae gennym gydberthnasau cryf ac effeithiol ag asiantaethau eraill, sy'n ein caniatáu i weithio ar y cyd er budd pobl Sir Benfro.
Bydd gweithio i Sir Benfro'n golygu y bydd gennych fynediad i adnoddau hyfforddiant hunangyfeiriedig ac a gyflwynir yn uniongyrchol, ynghyd â system sefydledig ar gyfer datblygiad gyrfa, sy'n gallu cynnwys cyllid ymgymryd â hyfforddiant gwaith cymdeithasol, hyfforddiant rheoli ac amrywiaeth o weithgareddau eraill. Mae ein tîm uwch-reolwyr yn weladwy, yn flaengar ac yn hygyrch a byddwch yn cael cymorth gan reolwr profiadol.
Mae Sir Benfro'n sir y mae ganddi lawer i fod yn falch ohono a nod yr adran Gwasanaethau Oedolion yw bod yn adran y mae eraill yn troi ati am esiampl ac ysbrydoliaeth.
Os ydych am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, beth am ymuno â ni a bod yn falch ohonoch chi'ch hun, yr hyn rydych yn ei wneud, a'ch cyflogwr.