Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol
Gweithio i'r Gwasanaethau Plant
Mae gweithio yn y Gwasanaeth Plant yn Sir Benfro'n golygu gweithio mewn gwasanaeth sydd â’r gwerth allweddol o barch fel llinyn aur drwy ei holl arferion. Ym mhopeth a wnawn gyda phlant a theuluoedd, rydym yn ceisio dangos parch drwy wrando, ymgynghori, cynnwys ac esbonio.
Rydym yn adran sy'n achub ar gyfleoedd i ddysgu a gwella sut rydym yn cyflawni'n gwasanaethau, fel ein bod yn ceisio ein gorau glas i wneud y gorau i blant a theuluoedd. Ein nod yw bod yn adran sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac atebion, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi a bod plant yn cael eu hamddiffyn. Mae ein staff yn gweithio i feithrin cydberthnasau gyda theuluoedd a phlant oherwydd ein bod yn cydnabod mai dyma'r ffordd orau o gyflawni gofal cymdeithasol da: drwy roi'r unigolyn fel canolbwynt. Ac, i'r perwyl hwn, rydym yn gweithredu'r dull Arwyddion Diogelwch ar draws ein holl weithrediadau. Mae gennym gydberthnasau cryf ac effeithiol ag asiantaethau eraill, sy'n ein caniatáu i weithio ar y cyd er budd pobl Sir Benfro. Ac mae ein cydberthnasau mewnol yn golygu bod gennym ddull blaengar ar gyfer rhianta corfforaethol.
Bydd gweithio i Sir Benfro yn golygu y bydd gennych fynediad i adnoddau hyfforddiant hunangyfeiriedig ac a gyflwynir yn uniongyrchol, ynghyd â system sefydledig ar gyfer datblygu ein staff anghymwys yn y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Mae ein tîm uwch-reolwyr yn weladwy, yn flaengar ac yn hygyrch a byddwch yn cael cymorth gan reolwr profiadol.
Mae Sir Benfro'n sir y mae ganddi lawer i fod yn falch ohono a nod yr adran Gwasanaethau Plant yw bod yn adran y mae eraill yn troi ati am esiampl ac ysbrydoliaeth.
Ymunwch â ni a bod yn falch o'ch cyflogwr.
Darren Mutter, Pennaeth y Gwasanaethau Plant