Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol

Pam ein dewis ni?

Mae Sir Benfro yn sir unigryw a phrydferth sydd wedi’i lleoli ar arfordir de orllewin Cymru. Heblaw am y 124,000 o bobl sy’n byw ac yn gweithio yma rydym hefyd yn croesawu oddeutu 2.3 miliwn o ymwelwyr sy’n aros bob blwyddyn. Yma yng Nghyngor Sir Penfro rydym yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da a dwyn gwerth i’n cwsmeriaid.

Mae mwy i Sir Benfro na’r golygfeydd syfrdanol a’r llwybr arfordirol byd-enwog: mae gennym sîn gerddorol a chelfyddydol fywiog, digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr a’r tir, efallai archwilio pentrefi cyfareddol a threfi diddorol neu ddarganfod hanes a diwylliant rhyfeddol yr ardal.

Ein nod yw sicrhau bod Sir Benfro yn llewyrchus a’i bod yn dal i fod yn ffyniannus ac yn arbennig.

Mae ein timau'n canolbwyntio ar geisio gwelliant parhaus yn ansawdd y gofal a’r cymorth ac ar amddiffyn y plant, pobl ifanc ac oedolion mwyaf agored i niwed yn ein sir ac rydym yn falch o’n cyflawniadau.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi a’u datblygu’n llawn i gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gyflawni’r deilliannau gorau ar gyfer y rhai yn ein gofal.

Cawn ein harwain yn ein gwaith gan ddeddfwriaeth ar lefel y DU a Chymru, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. 

Mae ein tîm rheoli cefnogol wedi ymrwymo i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae  ein dull sy'n seiliedig ar gryfderau, at Oruchwyliaeth Werthfawrogol, sy'n eich rhoi wrth wraidd eich goruchwyliaeth, wedi cael ei chanmol gan BASW.  Mae'r strwythur gweithio cefnogol hwn yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i berfformio hyd eithaf eich gallu, tra'n gwneud swydd rydych chi'n ei charu.

Mae ein pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, felly, rydym am i chi gael mynediad at y cyfleoedd datblygu gorau.  Gweler ein hadran Dysgu a Datblygu am fwy o fanylion.  

Gyda'n gilydd, rydym yn ymrwymedig i ddarganfod ffyrdd newydd ac arloesol o drawsnewid ymarfer ac rydym yn falch ein bod ni wedi derbyn nifer o wobrau cenedlaethol

Rhesymau dros ymuno â ni:

  • Gall eich cymudiad beunyddiol ddod yn bleser gyda ffyrdd tawel, profiad gyrru golygfaol ac ychydig iawn o dagfeydd traffig
  • Cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith – beth am ymweld â’r traeth ar eich ffordd adref?
  • Mae tai’n dal i fod yn weddol fforddiadwy
  • Mae gennym gysylltedd gwych
  • Un o’r cyfraddau troseddu isaf yn y DU – rydym yn cael ein cydnabod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio
  • Mae gennym ysgolion Cymraeg a Saesneg a Choleg Addysg Bellach

Mae hyn oll ynghyd â gweithio hyblyg, gwyliau a buddion hael (gan gynnwys darpariaeth adleoli) yn helpu i greu pecyn cyflawn.

O gynlluniau sefydlu cynhwysfawr, strategaethau hyfforddi a choetsio ystyriol i drefniadau gweithio hyblyg a chydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, lle mae gofalu am ein cyflogeion yn y cwestiwn rydym yn falch o’r hyn y gallwn ni ei gynnig:

  • Pecyn adleoli hael hyd at £8,000 ar gyfer rolau sy'n gymwys.
  • Tîm rheoli cefnogol a llwythi achosion ymarferol.
  • Gweithio hyblyg.
  • Aelodaeth o’r cynllun pensiwn buddion diffiniedig ‘cyfartaledd gyrfa’ Llywodraeth Leol.
  • Gwyliau blynyddol hael hyd at 31 diwrnod.
  • Ffyrdd newydd arloesol o weithio sy’n helpu i drefnu a dylanwadu ar ymarfer o fewn y gweithlu.
  • Cyfleoedd hyblyg ar gyfer datblygiad gyrfa.
  • Ystod eang o adnoddau iechyd a lles, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol proffesiynol a mynediad at wasanaethau cwnsela.
  • Cynllun tâl mamolaeth galwedigaethol hael, ar ben buddion statudol.
  • Cyfle i ddysgu Cymraeg
  • Polisïau eraill sy’n ystyriol o deuluoedd gan gynnwys:
    • Cynllun beicio i’r gwaith
    • Cynllun prydlesu ceir
    • Ystod o ddisgowntiau gan fanwerthwyr a chyflenwyr lleol

Rydym yn deall nad yw llwybrau gyrfaol wastad yn siwrneiau llinol, a dyna pam y gwnawn ni ein gorau i ddarparu cyfleoedd gwaith amrywiol a’ch cefnogi wrth i chi symud rhwng rolau ac ar draws timau i ganlyn eich diddordebau.

Mae ein gwaith yn newid bywydau. Os ydych chi’n rhannu ein hangerdd tuag at wneud gwahaniaeth i oedolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd, bwriwch olwg ar ein Swyddi Gofal Cymdeithasol gwag. Byddwn wrth ein bodd os byddwch yn ymuno â ni.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost.

ID: 7558, adolygwyd 15/11/2024