Gwell Band eang
Sir Benfro Digidol
Mae technoleg ddigidol wrth wraidd bron pob agwedd ar fywyd cyfoes sy'n ymwneud â gwaith, teithio, hamdden ac iechyd, a bellach y mae mynediad da i'r rhyngrwyd yn cael ei ystyried gan lawer fel cyfleuster angenrheidiol. Mae cysylltedd cyflym, dibynadwy yn hanfodol i gefnogi twf busnesau, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella iechyd a llesiant, a'i gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Y daith i fand eang gwell
Y daith i ifand eang gwell (yn agor mewn tab newydd)
Diffiniad band eang cyflym iawn yw cysylltiad â'r rhyngrwyd sydd â chyflymder lawrlwytho o fwy na 30mb yr eiliad. Mae gan 94.02% o drigolion Sir Benfro fynediad i fand eang cyflym iawn ac mae dros 57% o'r Sir Benfro bellach â mynediad at gyflymder gigabit alluog (1000 Mbps).
Po fwyaf o unigolion sydd ar eich aelwyd yn defnyddio dyfeisiau sydd wedi’u cysylltu, y mwyaf y lled band y bydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei arafu neu'i golli. Os ydych yn ansicr am yr hyn sydd orau i'ch aelwyd neu'r hyn sydd ar gael yn eich ardal, bydd yr adnoddau ar y dudalen hon yn eich helpu i wneud penderfyniad.