Gwell Band eang

Datrysiadau band eang

Mae cyflenwyr band eang ledled y DU yn uwchraddio eu rhwydweithiau i ffibr llawn. Bydd ffibr llawn yn rhoi mynediad i chi at fand eang cyflymach a mwy dibynadwy. Defnyddiwch wiriwr argaeledd band eang Ofcom (yn agor mewn tab newydd) i wybod pa opsiynau sydd ar gael yn eich ardal.

Fodd bynnag, mae ffurfio'r rhwydweithiau hyn yn mynd i gymryd amser ond mae atebion eraill ar gael. 

 

4G / 5G - Band eang symudol

4G yw'r bedwaredd genhedlaeth o dechnoleg rhwydwaith symudol. Dyma'r dechnoleg sy'n caniatáu i'ch dyfeisiau gysylltu â'r rhyngrwyd yn ddi-wifr. 5G yw’r genhedlaeth nesaf ac mae’n cael ei gyflwyno ledled y DU ar hyn o bryd. Mae 5G yn gweithredu ar amleddau uwch ac yn defnyddio technolegau uwch i drosglwyddo mwy o ddata yn gyflymach. Disgwylir iddo ddod â rhyngrwyd cyflym iawn, (ychydig iawn o oedi), a gallu cynnal nifer o ddyfeisiau ar yr un pryd.

Defnyddiwch y gwiriwr argaeledd ffonau symudol a ddarperir gan Ofcom sy'n rheoleiddio'r diwydiant i wybod beth sydd ar gael yn eich ardal.

Bydd angen i chi nodi eich cod post, yna gofynnir i chi ddewis eich cyfeiriad.  Ar ôl i chi nodi'r wybodaeth hon, dangosir i chi pa fath o wasanaethau symudol sydd ar gael. Gwiriwch y ddarpariaeth yn y tŷ ac yn yr awyr agored am ddata a data manylach a fydd yn dangos a oes gwasanaeth rhyngrwyd symudol ar gael. Mae'n bwysig nodi mai rhagfynegiadau yw'r canlyniadau ac nid gwarant. Gall gwasanaethau sydd ar gael fod yn wahanol i'r canlyniadau a gall toriadau rhwydwaith effeithio arnynt.

Bydd angen i chi siarad â'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd symudol i gael gwybod a yw hwn yn ateb ymarferol i chi.

Gwirio signal ffonau symudol (yn agor mewn tab newydd)

Lloeren / Orbit Daear Isel (LEO)

Technoleg LEO yw'r datrysiad lloeren mwyaf diweddar. Mae hyn yn defnyddio llawer iawn o loerennau llai sy'n cylchdroi'r ddaear ar uchderau isel ac sy'n gallu cynnig rhyngrwyd dibynadwy a chyflymach. Mae llawer o bobl wedi gosod datrysiadau fel Starlink gan ddefnyddio Cynllun Allwedd Band Eang Cymru (yn agor mewn tab newydd). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y pecynnau amrywiol ar eu gwefan.

 

 

ID: 11653, adolygwyd 16/09/2024