Gwell Band eang
Gwybodaeth i gyflenwyr
Mae dod â gwell cysylltedd i Sir Benfro yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Benfro.
Bydd trigolion Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn elwa ar Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd â'r nod o ddarparu:
- Band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl.
- Rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg.
- Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.
Fel rhan o'r rhaglen, bydd y blaenoriaethau canlynol yn cael sylw:
- Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad at ryngrwyd all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit.
- Paratoi'r rhanbarth ar gyfer 5G, gwell gwasanaeth 4G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi clyfar, gweithgynhyrchu clyfar, amaethyddiaeth glyfar, realiti rhithwir a thechnoleg y gellir ei gwisgo i gefnogi gofal iechyd, byw â chymorth a sectorau eraill.
Mae darparu gwell cysylltedd yn dibynnu ar gydweithredu cadarnhaol a datblygu partneriaethau cryf â chyflenwr seilwaith a gweithredwyr rhwydwaith symudol.
Os hoffech drafod sut y gallwch gymryd rhan yn y Rhaglen Seilwaith Digidol yn ardal Sir Benfro, cysylltwch â'ch broadband@pembrokeshire.gov.uk, sydd yno i ddarparu cymorth i gysylltiadau yn y diwydiant.
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wella eich band eang, ewch i'n tudalen bwrpasol, Gwell Band Eang, lle mae llawer o wybodaeth ar gael: Gwell Band eang
Am fwy o wybodaeth
Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Llawlyfr Chwalu Rhwystrau
Nod y Llawlyfr Chwalu Rhwystrau (yn agor mewn tab newydd) yw cynnig arweiniad a meithrin ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth sy'n sail i gefnogi'r gwaith o gyflwyno band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit.
Adolygiad Seilwaith Telathrebu'r Dyfodol
Mae'r Llywodraeth wedi gosod targedau clir ar gyfer argaeledd rhwydweithiau ffibr llawn a 5G.
Adolygiad Seilwaith Telathrebu'r Dyfodol (yn agor mewn tab newydd)
Gwybodaeth i'r Diwydiant
Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau sector Telathrebu ffyniannus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a gwaith ymchwil yma ar gyfer y diwydiant telathrebu (yn agor mewn tab newydd).