Gwobr Dewisiadau Iach
Beth?
Datblygwyd y Wobr Dewisiadau Iach er mwyn gwobrwyo arlwywyr bwyd o Gymru sy'n hwyluso cwsmeriaid i wneud dewisiadau iach wrth fwyta allan. Ceir tair lefel i'r wobr - Efydd, Arian ac Aur a cheir logo siâp afal yn cynnwys hadau siâp calon.
Gan bwy?
Gweinyddir y cynllun gwobrau a'r broses asesu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Benfro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Amcanion?
Mae'r wobr yn anelu at gynorthwyo busnesau bwyd sy'n darparu dewisiadau iach i'w cwsmeriaid. Byddant yn gwneud hyn drwy ymarfer dulliau iach o arlwyo, cynyddu'r dewis o ffrwythau, llysiau a charbohydradau strastlyd sydd ar gael, a lleihau'r dewis o fraster, yn enwedig braster dirlawn, siwgr a halen. Maent hefyd yn cydnabod cynlluniau dewisiadau iach ar gyfer plant, ac yn gwobrwyo hyfforddi staff ynghyd â hyrwyddo a marchnata dewisiadau iach.
Pam?
Mae bwyta allan yn rhan bwysig o'n bywydau - mae mwy na thraean o'r arian sy'n cael ei wario ar fwyd a diod yng Nghymru yn cael ei fwyta tu allan i'r cartref. Mae pobl yn chwilio'n gyson am ffyrdd newydd ac iachus i'w cynorthwyo i ddilyn bywyd iach.
Mae'r Holiadur Ystadegol Cenedlaethol Bwyd Cartref 2005-2006 yn dangos bod llai na thraean o'r arian a wariwyd ar fwyd a diod yn y DU (heblaw am alcohol) wedi'i wario y tu allan i'r cartref. Mae'r bwyd sy'n cael ei gymryd y tu allan i'r cartref fel arfer yn cynnwys mwy o siwgr ac ychydig mwy o fraster na bwyd sydd wedi'i baratoi yn y cartref.
Mae diet sy'n cynnwys lefel uchel o fraster dirlawn wedi'i gysylltu â risg uwch o ordewdra a Chlefyd y Galon.
Ar hyn o bryd, mae dros hanner y boblogaeth o oedolion yng Nghymru yn cael eu dosbarthu i fod dros bwysau neu'n ordew.
Mae 38% o blant yn cael eu dosbarthu i fod dros bwysau neu'n ordew gan gynnwys 20% o'r rhain, neu 1 allan o 5, i fod yn ordew.
Mae bod dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu'r risg o nifer o afiechydon gwahanol gan gynnwys - pwysedd gwaed uchel, clefyd y siwgr math II, rhai mathau o gancr, clefyd y galon a'r strôc. Clefydau cylchrediad megis clefyd y galon a'r strôc yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth yng Nghymru, ac mae'n achosi 32% o farwolaethau cynnar mewn dynion, a 23% o farwolaethau cynnar mewn menywod.
Gall arlwywyr wneud gwahaniaeth mawr!