Gwobr Dewisiadau Iach

I bwy?

O fewn Sir Benfro, mae'r wobr ar gael i fusnesau arlwyo sy'n targedu pobl ifanc a theuluoedd mewn cyswllt â blaenoriaeth iechyd ehangach.

Yn ogystal, gwahoddir ceisiadau oddi wrth safleoedd gwaith ehangach, gan gynnwys cyfleusterau ffreutur, nifer fawr o gwsmeriaid ffyddlon lle mae'r dewis o fwyd yn cyfrannu at ran sylweddol o'r diet.

Amod pellach yw bod rhaid i'r busnes bwyd 'gydymffurfio'n eang' â gofynion hylendid bwyd, gan sgorio 3 neu'n uwch ar Gynllun Cenedlaethol Hylendid Bwyd. Bydd hyn yn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel ac yn iachus.

Pam ddylwn i ei wneud?

Mae'r Wobr Dewisiadau Iach yn dda i:

  • Chi
  • Eich busnes
  • Eich cwsmeriaid

Gallwch wneud cyfraniad aruthrol i wella diet ac iechyd eich cwsmeriaid drwy gynnig dewisiadau o fwydydd iach.

Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth gyhoeddus am y wobr gan ennill statws teilwng fel busnes cyfrifol sy'n rhoi lles y cwsmeriaid yn gyntaf. Gall hyn roi mantais gystadleuol ichi gan gynyddu boddhad y cwsmer am fod galw cynyddol am fwydydd iach. Mae nifer o gynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd sydd wedi cyflwyno dewisiadau iach wedi gweld cynnydd yn eu gwerthiant.

Bydd eich cwsmeriaid yn medru manteisio ar y rhyddid i ddewis bwydydd iach os ydynt yn dymuno a hefyd cael mwy o reolaeth dros yr hyn maent yn ei fwyta, a hefyd dros eu hiechyd.

Beth fydd raid imi ei wneud?

Er mwyn ennill y Wobr, caiff eich busnes ei asesu yn ôl criteria penodol wedi'i seilio ar brif ofynion diet iach a chytbwys. Golyga hyn, diet sydd â llai o fraster, siwgr a halen, a dewis ehangach o ffrwythau, llysiau a charbohydrad strastlyd. Byddwch hefyd yn cael eich asesu ar y ffordd rydych yn marchnata a hyrwyddo'r dewisiadau iach.

Nodwch fod y Plat Bwyta'n Iach y cyfeirir ato ar dudalen 8 y canllaw uchod wedi cael ei ddisodli gan y Canllaw Bwyta'n Dda a Llyfryn cysylltiedig.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cyngor arbenigol neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais, cysylltwch â:

Kate Smith

Ymarferydd Maeth Cymunedol

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Ffôn: 01437 772883

Ffacs: 01437 772887

E-bost: kate.smith2@wales.nhs.uk

Gellir dod o hyd i ddeunyddiau eraill drwy ymweld â'r wefan Sefydliad Siarter o Iechyd Amgylcheddol (Cymru).

ID: 1603, adolygwyd 28/09/2023