Gwobr Dug Caeredin

Gwobr Dug Caeredin

Edrychwch ar gwefan swyddogol Gwobr Dug Caeredin (yn agor mewn tab newydd) am fwy o wybodaeth.

Mae Gwobr Dug Caeredin yn rhaglen datblygiad personol heriol a difyr o ansawdd uchel sy’n rhoi llawer o foddhad i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. Mae'n rhoi cyfle i’r sawl sy’n cymryd rhan herio eu hunain, rhoi cynnig ar bethau newydd, ac ennill sgiliau gwerthfawr a fydd o fudd iddynt nawr ac yn y dyfodol. I gael gwybod beth yn union y mae’r rhaglen yn ei gynnwys, ac i ddysgu mwy am fuddion cymryd rhan, anogir y sawl sy’n cymryd rhan i ymweld â gwefan y wobr.

Mae'r wobr yn cynnwys tair lefel: efydd, arian ac aur. Mae pob lefel yn cynnwys adrannau sy'n canolbwyntio ar wirfoddoli, gweithgarwch corfforol, sgiliau, ac alldaith, ac mae adran breswyl ychwanegol ar y lefel aur. Mae'r meysydd hyn yn helpu pobl ifanc i fagu hyder, gwella ffitrwydd, dysgu sgiliau ymarferol neu greadigol, a datblygu’r gallu i weithio mewn tîm a bod yn fwy annibynnol trwy gynllunio a chwblhau alldaith.

Mae Gwobr Dug Caeredin yn arbennig o boblogaidd yn Sir Benfro, lle mae’r nifer sy’n cymryd rhan yn uchel iawn. Mae'r sir wedi bod yn falch o gael rhai o'r cyfraddau cyfranogiad uchaf yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, sy'n dangos cymaint y gwerthfawrogir a chefnogir y wobr yn lleol. Mae llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y rhaglen drwy ysgolion a sefydliadau ieuenctid, gan wneud y wobr yn gyfle sefydledig a phwysig ar gyfer datblygiad personol yn yr ardal.

ID: 14794, adolygwyd 29/01/2026