Gwresogi eich Cartref
Gwresogi eich Cartref
Cadw’n ddiogel wrth gadw’n gynnes
Er eich diogelwch eich hun mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich system wresogi’n gweithio’n iawn. Gall systemau gwresogi fod yn beryglus iawn os nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol.
- Trefnwch fod eich cyfarpar coginio a gwresogi nwy/glo yn cael eu harchwilio’n flynyddol gan rywun sydd wedi ei gofrestru i archwilio diogelwch cyfarpar nwy (yn agor mewn tab newydd) neu gan beiriannydd HETAS (yn agor mewn tab newydd)
- Gosodwch larwm carbon monocsid sydd wedi cael ei gymeradwyo
- Peidiwch â chysgu mewn ystafell wely sydd â gwresogydd paraffin neu dân nwy heb ffliw.
Cadw'n gynnes yn y gaeaf
Mae’n hanfodol cadw’n gynnes, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach yw’r ymgyrch newydd i gynorthwyo pobl ledled Sir Benfro yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan Hwb Cymunedol Sir Benfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a nifer o asiantaethau gan gynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y Gwasanaethau Brys a’r Sector Gwirfoddol.
Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ac mae’n gyfnod pryderus ac ansicr i gymaint o bobl. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu pobl â gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau lleol dros fisoedd oeraf y flwyddyn.
Ledled Sir Benfro, rydym eisoes yn gweld cymunedau a sefydliadau yn gwneud gwaith gwych i ymateb i’r argyfwng gan gynnig ystod o atebion lleol, o brydau poeth i weithgareddau cymunedol, ynghyd â chyngor ar ynni, arian a dyled.
Os ydych chi neu bobl rydych chi’n eu hadnabod yn profi caledi ariannol neu os hoffech gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn eich ardal, gallwch gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro.
Gallant siarad â chi am eich sefyllfa a’ch rhoi mewn cysylltiad â’r grŵp neu’r gwasanaeth cymunedol priodol – gan fod llawer o gymorth ar gael yn Sir Benfro a ledled Cymru. Yn ogystal, maen nhw wedi creu siop un stop ar-lein trwy wefan Cysylltu Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) sy’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a map rhyngweithiol o fannau Croeso Cynnes ar draws y sir.
Mae mannau Croeso Cynnes yn cynnig lleoliadau croesawgar lle gall pobl gwrdd ag eraill yn eu cymuned leol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Os ydych chi’n gofidio am wneud i’ch arian ymestyn a sut y byddwch chi’n talu biliau hanfodol dros y gaeaf, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro. Ni ddylai unrhyw un deimlo’n anghysurus ynghylch cysylltu â ni ac mae gennym dîm cyfeillgar iawn sy’n gallu sgwrsio â chi am y cymorth cymunedol gwych sy’n lleol i chi.
Mae gennym ddull hawdd ‘un alwad, dyna’r cyfan’ – ffoniwch 01437 723660, neu gallwch anfon neges e-bost at enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org
Canllaw’r Adran Iechyd, Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach (yn agor mewn tab newydd), yn darparu gwybodaeth am gadw’n iach yn y gaeaf drwy gadw’n gynnes.
Cymorth ariannol â chostau gwresogi
Os ydych yn cael trafferth gyda’ch costau tanwydd yn y gaeaf, dylech siarad â’ch darparwr ynni yn y lle cyntaf.
Cymorth
Age Cymru (yn agor mewn tab newydd) – sy’n cyhoeddi’r ffeithlenni Help with Heating Costs in Wales (yn agor mewn tab newydd) a Save Energy, Pay Less (yn agor mewn tab newydd).
Gofal a Thrwsio (yn agor mewn tab newydd) - efallai y gall gynorthwyo gyda dangos ffyrdd o leihau eich biliau gwresogi neu gael grantiau perthnasol os ydych yn byw yn eich cartref eich hun neu’n denant preifat.
Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) - cynnig cyngor ar beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth talu’ch biliau ynni.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (yn agor mewn tab newydd) - cynnig cyngor di-dâl a diduedd i helpu lleihau allyriadau a chostau biliau ynni.
Cymorth Ariannol
Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain (yn agor mewn tab newydd) – Mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu teuluoedd ac unigolion sy’n profi caledi sy’n cael trafferth gyda dyledion nwy a thrydan drwy roi grantiau i dalu’r dyledion hynny.
NYTH (yn agor mewn tab newydd) - cynnig amrywiaeth o gyngor di-dâl a diduedd os ydych yn berchennog eich cartref eich hun neu’n rhentu’n breifat ac, os oes gennych hawl, pecyn am ddim o welliannau arbed ynni yn y cartref fel bwyler newydd, gwres canolog neu inswleiddio. Fe all hyn leihau eich biliau ynni a manteisio eich iechyd a ffyniant.
Cynllun Disgownt Cartref Cynnes (yn agor mewn tab newydd) - cynllun Llywodraeth y DU sy’n cynnig arian oddi ar eich bil ynni.
Efallai bod gennych hawl i Daliadau Tanwydd Gaeaf (yn agor mewn tab newydd) a/neu Daliadau Tywydd Oer (yn agor mewn tab newydd).
Third Party Deductions (yn agor mewn tab newydd) - cynllun Llywodraeth y DU sy’n galluogi i chi dalu rhai o’ch biliau (gan gynnwys rhent, taliadau am wasanaethau, biliau tanwydd neu ddŵr) yn uniongyrchol allan o’ch taliadau budd-dal os ydych yn cael anawsterau.
Cadw'n gynnes yn y gaeaf
Mae’n hanfodol cadw’n gynnes, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf. M