Gwresogi eich Cartref

Cadw'n gynnes yn y gaeaf

Mae’n hanfodol cadw’n gynnes, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf. M

Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach yw’r ymgyrch newydd i gynorthwyo pobl ledled Sir Benfro yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan Hwb Cymunedol Sir Benfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a nifer o asiantaethau gan gynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y Gwasanaethau Brys a’r Sector Gwirfoddol.

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ac mae’n gyfnod pryderus ac ansicr i gymaint o bobl. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu pobl â gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau lleol dros fisoedd oeraf y flwyddyn.

Ledled Sir Benfro, rydym eisoes yn gweld cymunedau a sefydliadau yn gwneud gwaith gwych i ymateb i’r argyfwng gan gynnig ystod o atebion lleol, o brydau poeth i weithgareddau cymunedol, ynghyd â chyngor ar ynni, arian a dyled.

Os ydych chi neu bobl rydych chi’n eu hadnabod yn profi caledi ariannol neu os hoffech gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn eich ardal, gallwch gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro.

Gallant siarad â chi am eich sefyllfa a’ch rhoi mewn cysylltiad â’r grŵp neu’r gwasanaeth cymunedol priodol – gan fod llawer o gymorth ar gael yn Sir Benfro a ledled Cymru. Yn ogystal, maen nhw wedi creu siop un stop ar-lein trwy wefan Cysylltu Sir Benfro sy’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a map rhyngweithiol o fannau Croeso Cynnes ar draws y sir.

Mae mannau Croeso Cynnes yn cynnig lleoliadau croesawgar lle gall pobl gwrdd ag eraill yn eu cymuned leol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Os ydych chi’n gofidio am wneud i’ch arian ymestyn a sut y byddwch chi’n talu biliau hanfodol dros y gaeaf, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro. Ni ddylai unrhyw un deimlo’n anghysurus ynghylch cysylltu â ni ac mae gennym dîm cyfeillgar iawn sy’n gallu sgwrsio â chi am y cymorth cymunedol gwych sy’n lleol i chi.

Mae gennym ddull hawdd ‘un alwad, dyna’r cyfan’ – ffoniwch 01437 723660, neu gallwch anfon neges e-bost at enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org 

Canllaw’r Adran Iechyd, Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach, yn darparu gwybodaeth am gadw’n iach yn y gaeaf drwy gadw’n gynnes.

ID: 2059, adolygwyd 10/03/2023