Gwresogi eich Cartref
Cymorth ariannol â chostau gwresogi
Os ydych yn cael trafferth gyda’ch costau tanwydd yn y gaeaf, dylech siarad â’ch darparwr ynni yn y lle cyntaf.
Cymorth
Age Cymru – sy’n cyhoeddi’r ffeithlenni Help with Heating Costs in Wales a Save Energy, Pay Less.
Gofal a Thrwsio - efallai y gall gynorthwyo gyda dangos ffyrdd o leihau eich biliau gwresogi neu gael grantiau perthnasol os ydych yn byw yn eich cartref eich hun neu’n denant preifat.
Cyngor ar Bopeth - cynnig cyngor ar beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth talu’ch biliau ynni.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni - cynnig cyngor di-dâl a diduedd i helpu lleihau allyriadau a chostau biliau ynni.
Cymorth Ariannol
Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain – Mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu teuluoedd ac unigolion sy’n profi caledi sy’n cael trafferth gyda dyledion nwy a thrydan drwy roi grantiau i dalu’r dyledion hynny.
NYTH - cynnig amrywiaeth o gyngor di-dâl a diduedd os ydych yn berchennog eich cartref eich hun neu’n rhentu’n breifat ac, os oes gennych hawl, pecyn am ddim o welliannau arbed ynni yn y cartref fel bwyler newydd, gwres canolog neu inswleiddio. Fe all hyn leihau eich biliau ynni a manteisio eich iechyd a ffyniant.
Cynllun Disgownt Cartref Cynnes - cynllun Llywodraeth y DU sy’n cynnig arian oddi ar eich bil ynni.
Efallai bod gennych hawl i Daliadau Tanwydd Gaeaf a/neu Daliadau Tywydd Oer.
Third Party Deductions - cynllun Llywodraeth y DU sy’n galluogi i chi dalu rhai o’ch biliau (gan gynnwys rhent, taliadau am wasanaethau, biliau tanwydd neu ddŵr) yn uniongyrchol allan o’ch taliadau budd-dal os ydych yn cael anawsterau.