Gwybodaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cyfleoedd cyn-ysgol

Os ydych chi'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg, mae digon o gefnogaeth ar gael i roi sylfaen gadarn i'ch plentyn o oedran ifanc.

Cymraeg i blant (yn agor mewn tab newydd): Grwpiau cynenedigol, grwpiau tylino, grwpiau ioga a grwpiau Stori a Chân.

Clwb Cwtsh (yn agor mewn tab newydd): Rhaglen flasu llawn hwyl wedi'i hanelu at rieni ac aelodau estynedig o'r teulu, gan ganolbwyntio ar siarad Cymraeg â phlant ifanc. Nid oes angen i chi allu siarad na deall unrhyw Gymraeg i ymuno.

Cylch Ti a Fi (yn agor mewn tab newydd): Grwpiau ar gyfer rhieni a phlant bach lle gall eich plentyn fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau mewn amgylchedd Cymreig.

Meithrinfeydd: Mae yna feithrinfeydd dydd dwyieithog sy'n cyflwyno Cymraeg i blant o'r dechrau, trwy weithgareddau yn Gymraeg a chyfathrebu yn Gymraeg gyda'r babanod a'r plant bach.

Cylch Meithrin (yn agor mewn tab newydd): Sesiynau addysg a datblygiad ar gyfer plant dwy oed hyd at oedran ysgol. Mae gan y plant gyfle i gymdeithasu a dysgu.

Dosbarthiadau meithrin yn yr ysgol: Mae gan rai o'n hysgolion Cymraeg ddosbarthiadau Meithrin.

ID: 8074, adolygwyd 18/09/2024