Gwybodaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cwestiynau Cyffredin

Beth os dw i ddim yn siarad Cymraeg?

Peidiwch â phoeni. Mae nifer o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro’n dod o gefndir di-Gymraeg. Byddwch yn cael cymorth da gan eich dewis ysgol. Maen nhw’n cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith ac mae digonedd o gymorth i helpu gyda gwaith ysgol.


A fydd dysgu Cymraeg yn effeithio ar Saesneg fy mhlentyn?

Na fydd! A dweud y gwir, gallai hyd yn oed helpu Saesneg eich plentyn. Trwy ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, daw plant yn fwy ymwybodol sut y mae ieithoedd yn gweithio’n gyffredinol. Mae canlyniadau diweddar yn awgrymu bod plant sy’n cael addysg ddwyieithog yn gwneud yn well mewn pynciau ar draws y cwricwlwm – gan gynnwys Saesneg! Dengys ymchwil fod gallu siarad a defnyddio dwy iaith yn gwella gallu plentyn i ddefnyddio a dysgu iaith yn gyffredinol.


A ddylwn i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’m plentyn?

Mae rhai rhieni, ar ôl dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i’w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae’n gyfle gwych i ddysgu gyda’ch gilydd, i ymarfer eich sgiliau iaith ar eich gilydd a threulio amser gwerth chweil gyda’ch gilydd. Mae gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro amrywiaeth o gyrsiau sy’n addas i ddysgwyr ar bob lefel.


A fyddaf yn gallu helpu gyda gwaith cartref yn nes ymlaen?

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi’u harfogi’n dda i gefnogi rhieni o gefndiroedd di-Gymraeg gyda llawer o offer i’ch helpu. Gall ysgolion anfon gwaith cartref allan yn ddwyieithog, a fydd yn helpu i feithrin sgiliau cyfieithu eich plentyn a bydd athro neu athrawes eich plentyn yn fwy na hapus i’ch helpu chi gyda gwaith cartref eich plentyn. Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod plant sy’n gorfod cyfieithu tasg i’w rhieni’n cael dealltwriaeth well am y pwnc, gan bod y broses o gyfieithu’n atgyfnerthu’r pwnc ym meddwl y plentyn.

Addysg Cyfrwng Cymraeg Sir Benfro

Canolfannau Iaith Sir Benfro

ID: 8076, adolygwyd 15/06/2022