Gwybodaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg
Ydych chi wedi symud i Sir Benfro yn ddiweddar neu a hoffech i'ch plentyn drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg? Mae gennym ganolfannau iaith pwrpasol yn Sir Benfro ar gyfer plant cynradd sydd wedi symud i'r ardal yn ddiweddar neu a hoffai symud i addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd ein canolfannau iaith yn cefnogi’ch plentyn i gaffael y Gymraeg wrth iddynt drosglwyddo i'r ysgol newydd.
Pwrpas Canolfannau Iaith yw darparu cefnogaeth i hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg fel bod eu caffaeliad o'r iaith yn eu galluogi i gael mynediad llawn a chymryd rhan mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae ein canolfannau wedi'u lleoli yn yr ysgol uwchradd ar gyfer y clwstwr, un yn Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun, un yn Ysgol y Preseli yn Nghrymych, ac un yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd. Maent yn cael eu staffio gan athro cymwysedig sydd â set o sgiliau penodol fel athrawon iaith, ac felly yn fodelau rôl ieithyddol rhagorol.
Mae'r tair canolfan iaith yn cefnogi hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg gyda chwrs rhan-amser dwy flynedd. Mae'r ddarpariaeth yn benodol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gan fod yr arferion trochi yn y Cyfnod Sylfaen yn effeithiol wrth gefnogi disgyblion sy'n cyrraedd fel hwyrddyfodiaid yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Mae staff y canolfannau iaith yn cyfathrebu'n rheolaidd ag ysgol y disgybl, a'u rhieni i drafod cynnydd y disgyblion. Mae disgyblion yn ymuno â'r Ganolfan Iaith ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ysgol yn unol â phryd bynnag y maent wedi symud i addysg cyfrwng Cymraeg.